Dadleuon disoldi iaith

Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod

Cymedrolwr: Dafydd Iwanynyglaw

Rheolau’r seiat
Unrywbeth "ieithyddol" na all ei drafod uchod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dadleuon disoldi iaith

Postiogan Geraint » Maw 23 Tach 2004 2:04 pm

Dwi wedi sylwisawl llythr yn y Western Mail yn ddiweddar yn trafod hanes disodli iaith yn Lloegr a Chyrmu, mae yna un yna heddiw.

Y ddadl yw fod y Celtiaid wedi symud i'r ynysoedd yma tua 500 cyn crist, gan ddisodli y iaith brodorol a oedd yno ar yr amser.

Digwyddodd yr un peth yn yr oesoedd 'tywyll' wrth i iaith y Sacsoniaid gymrtd dros y iaith Brythoneg a siaradwyd yn Lloegr.

Yn dilyn y patrwm yma, mae yr un peth nawr yn digwydd yng Nghymru, wrth i iaith a dwiylliant cryf dod i fewn, gan achosi diflaniad yr un brodorol.

Eu pwynt yw nad oes gan ni yng Nghymru lle i gwyno. Mae ein iaith ni yma o ganlyniad o gael gwared o iaith arall. Felly sut allen ni gwyno am yr un peth yn digwydd eto i ni?


A ddylai cymyrd y fath syniadau o ddifri? Beth yw'r ateb gore i'r ddadl?
A'i ond pobl blin hiliol di nhw? Neu, a oes ganddynt bwynt?

Trafodwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Cardi Bach » Maw 23 Tach 2004 2:47 pm

Yn gyntaf oll mae'r theori yn seiliedig ar ddamcaniaeth hanesyddol 'flawed', ac felly yn anghywir.

Y gred sydd wedi bod yw fod Celtiaid wedi rheibio, treisio, a lladd eu ffordd trwy Ewrop - o'r Ddonaw yn ochrau Hwngari a Awstria - ac ymsefydlu mewn sawl man ar eu taith i'r Gorllewin. Mae'r Gorllewin erioed wedi chwarae rol ysbrydol yn y traddodiad (a gwareiddiad) Celtaidd.

Yn raddol bach bu i'r bobl Geltaidd yma 'assimilate' gyda pobloedd eraill, tan ein bod ni bellach yn gweld mai dim ond Cymru, Cernys, Llydaw, Iwerddon, Alban, Ynys Manaw, ac yn ddadleuol Galicia, yw'r gwledydd wirioneddol Geltaidd sydd ar ol bellach. Mae hyn yn bennaf ar sail iaith sydd yn arwydd o draddodiad di-dor (dyna pam fod Galicia yn ddadleol am nad oes ganddi iaith Geltaidd, er fod ei harferion a thraddodiadau eraill bron yn ddieithriad yn tarddu o draddodiadau Celtaidd).

Felly mae pobl wedi datblygu theori fod y Celtiaid - fel criw o bobl - wedi teithio wrth droed i'r ynysoedd yma.

Dyma'r nam yn y dehongliad.

Y gair pwysig yn y llith uchod yw 'traddodiad'. Mae tystiolaeth bellach yn dangos mae 'traddodiad Celtaidd' yn unig sydd ganddom ni yn y 'gwledydd Celtaidd' - iaith ac arferion Celtaidd yn sicr, ond o ran genynnau rydym yn rhannu'r un genynnau a'r brodorion yr honnir i'r Celtiaid eu lladd. Dyna pam fod y Cmry mor fyr! Fel "Pobl bach dduon" oedd brodorion Cymry yn cael eu cyfeirio atynt - yn rhannu'r un tras a'r Iberiaid (Penrhyn Iberia). Does dim lle i gredu na ddoth amryw o bobl o 'hil' Geltaidd draw yma, dyna oedd natur y byd yn yr adeg hynny, ond does dim tystiolaeth i ddangos eu bont wei rheibio eu ffordd, ac mai yn hytrach cyd-fyw wnaeth y rhai - ychydig - a ddoth yma.

Ond beth bynnag mae dadleuon o'r fath yn ddiog ac yn gwrthod ystyried amgylchiadau hanesyddol holl bwysig.

Pebai rhywbeth fel hynna WEDI digwydd, dyw hynny ddim yn ei wneud yn iawn, yn nagyw. Hefyd, onid yw gwareiddiad wedi symud ymlaen ers dyddiau cyn Crist? Roedd sawl peth yn digwydd yn y byd yma yn yr oes honno, ond dyw hynna ddim yn golygu ein bod ni yn caniatau i hynny ddigwydd heddiw.

Mae dadl o'r fath hefyd yn dangos tristwch agwedd nad sy'n gweld gwerth mewn diwylliannau gwahanol - agwedd Imperialaidd ffiaidd, lle mai 'survival of the fittest' yw'r drefn ac nad oes gwerth i bethau na all fodoli mewn byd o'r fath.

Yn wir yr unig bwynt sydd mewn dadl o'r fath yw ei fod yn ffeithiol gywir fod ieithoedd wedi marw ar hyd hanes. Eto, dyw hynna ddim yn ei wneud yn iawn. Mae nifer wei esblygu yn hytrach na marw, yn naturiol. Byddai hynny yn berffaith iawn i'r Gymraeg petai'n cael rhydd hynt i esblygu yn naturiol, ond Llofruddiaeth yw'r unig ffordd o ddisgrifio beth sy'n digwydd nawr - neu ar y gorau Manslaughter (iaith-laddiad :?).

Felly Celtiaid mewn diwylliant a thrddodiad y'm ni.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Barbarella » Maw 23 Tach 2004 2:48 pm

Wel i ddechrau, does neb yn gwybod i sicrwydd pwy na beth oedd yma cyn y Celtiaid.

Yn sicr, does gyda ni ddim tystiolaeth o beth oedd eu hiaith. Mae na proto-iaith o'r enw Indo-Ewropeiadd, y mae ieithyddwyr yn tybio i fwyafrif ieithoedd Ewrop deillio ohoni, ond does dim sicrwydd o hynny, na thystiolaeth gadarn o fodolaeth yr iaith.

Y celtiaid ydi'r criw cynhara o bobl y'n ni'n gwybod am oedd yn byw yng Nghymru, a chanddynt iaith benodol. Mae gwneud cymhariaethau gyda hanes am gyfnodau cyn hynny nid yn unig yn nonsens ond yn amhosib oherwydd y diffyg tystiolaeth.

Man a man i ti ddweud pethau fel "sdim pwynt gwarchod fforestydd rhag diwydiant, oherwydd doedd y fforestydd ddim yna adeg yr oes iâ diwethaf", a dwli felly :rolio:

(<a href="http://www.bbc.co.uk/cymru/hanesyriaith/content/thecelticbritons.shtml">hanes cynhara'r iaith fan hyn</a> gan y Bîb)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Geraint » Maw 23 Tach 2004 3:21 pm

Chwaliad da i'r ddadl.

Mae'n engrhaifft clasurol o dehongli hanes i ffitio eich cred a dadleuon. Allaim credu fod pobl yn defnyddio'r fath tactegau. Ma rhai pobl wir yn credu fydd en well i ni gyd siarad yr un iaith, cael yr un diwylliant, bod cael iaith lleiafrifol yn dal ni nol.

Da ni yn siarad iaith daeth o'r diwyllaint 'celtaidd' yma, ond does bosib gwybod faint o draddodiad, neu falle eiriau, goroesodd o'r diwylliant blaenorol. Mae'n amhosib i ni wybod be ddigwyddodd.Yn sicr roedd haearn yn ffactor mawr yn y symudiad i ddiwylliant Celtaidd.

Mae yna le i ddadlau am faint o newid poblogaeth a ddigwyddodd yn Lloegr wrth i'r sacsonaid ddod mewn - mae rhai yn credu fod y Prydeinwyr wedi ymdoddi mewn i''r Gymdeithas Sacsoniadd, eraill yn gweld trais a mudiad poblogaeth i ffwrdd.

Ond da ni'n byw mewn byd heddiw lle ma ganddo ni siawns o allu diogelu ein iaith a diwylliant, trwy penderfyniadau glweidyddol, economaidd, diwylliannol- ond mae'n torcalonus gweld y brwydr yma yn taro wal ar ol wal.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)


Dychwelyd i Cell Gymysg Ieithyddol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron