Yn gyntaf oll mae'r theori yn seiliedig ar ddamcaniaeth hanesyddol 'flawed', ac felly yn anghywir.
Y gred sydd wedi bod yw fod Celtiaid wedi rheibio, treisio, a lladd eu ffordd trwy Ewrop - o'r Ddonaw yn ochrau Hwngari a Awstria - ac ymsefydlu mewn sawl man ar eu taith i'r Gorllewin. Mae'r Gorllewin erioed wedi chwarae rol ysbrydol yn y traddodiad (a gwareiddiad) Celtaidd.
Yn raddol bach bu i'r bobl Geltaidd yma 'assimilate' gyda pobloedd eraill, tan ein bod ni bellach yn gweld mai dim ond Cymru, Cernys, Llydaw, Iwerddon, Alban, Ynys Manaw, ac yn ddadleuol Galicia, yw'r gwledydd wirioneddol Geltaidd sydd ar ol bellach. Mae hyn yn bennaf ar sail iaith sydd yn arwydd o draddodiad di-dor (dyna pam fod Galicia yn ddadleol am nad oes ganddi iaith Geltaidd, er fod ei harferion a thraddodiadau eraill bron yn ddieithriad yn tarddu o draddodiadau Celtaidd).
Felly mae pobl wedi datblygu theori fod y Celtiaid - fel criw o bobl - wedi teithio wrth droed i'r ynysoedd yma.
Dyma'r nam yn y dehongliad.
Y gair pwysig yn y llith uchod yw 'traddodiad'. Mae tystiolaeth bellach yn dangos mae 'traddodiad Celtaidd' yn unig sydd ganddom ni yn y 'gwledydd Celtaidd' - iaith ac arferion Celtaidd yn sicr, ond o ran genynnau rydym yn rhannu'r un genynnau a'r brodorion yr honnir i'r Celtiaid eu lladd. Dyna pam fod y Cmry mor fyr! Fel "Pobl bach dduon" oedd brodorion Cymry yn cael eu cyfeirio atynt - yn rhannu'r un tras a'r Iberiaid (Penrhyn Iberia). Does dim lle i gredu na ddoth amryw o bobl o 'hil' Geltaidd draw yma, dyna oedd natur y byd yn yr adeg hynny, ond does dim tystiolaeth i ddangos eu bont wei rheibio eu ffordd, ac mai yn hytrach cyd-fyw wnaeth y rhai - ychydig - a ddoth yma.
Ond beth bynnag mae dadleuon o'r fath yn ddiog ac yn gwrthod ystyried amgylchiadau hanesyddol holl bwysig.
Pebai rhywbeth fel hynna WEDI digwydd, dyw hynny ddim yn ei wneud yn iawn, yn nagyw. Hefyd, onid yw gwareiddiad wedi symud ymlaen ers dyddiau cyn Crist? Roedd sawl peth yn digwydd yn y byd yma yn yr oes honno, ond dyw hynna ddim yn golygu ein bod ni yn caniatau i hynny ddigwydd heddiw.
Mae dadl o'r fath hefyd yn dangos tristwch agwedd nad sy'n gweld gwerth mewn diwylliannau gwahanol - agwedd Imperialaidd ffiaidd, lle mai 'survival of the fittest' yw'r drefn ac nad oes gwerth i bethau na all fodoli mewn byd o'r fath.
Yn wir yr unig bwynt sydd mewn dadl o'r fath yw ei fod yn ffeithiol gywir fod ieithoedd wedi marw ar hyd hanes. Eto, dyw hynna ddim yn ei wneud yn iawn. Mae nifer wei esblygu yn hytrach na marw, yn naturiol. Byddai hynny yn berffaith iawn i'r Gymraeg petai'n cael rhydd hynt i esblygu yn naturiol, ond Llofruddiaeth yw'r unig ffordd o ddisgrifio beth sy'n digwydd nawr - neu ar y gorau Manslaughter (iaith-laddiad
).
Felly Celtiaid mewn diwylliant a thrddodiad y'm ni.