Tudalen 1 o 2

Eve = Noswyl? Nos? Noson?

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 10:40 am
gan Geraint
Oes na air Cymraeg am eve?

Christmas eve yw......diwrnod cyn nadolig?

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 10:41 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Noswyl Nadolig.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 10:48 am
gan Geraint
Felly noswyl calan?

Gyda llaw dwi di sylwi fod calan yn meddwl 'diwrnod cynta y mis' a dim i wneud da diwrnod cynta y flwyddyn. O ni heb sylwi na o'r blaen.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 10:54 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Nage, Nos Galan, ond paid â gofyn pam fod hynny'n wahanol.

Ie, parthed y gair Calan, mae Nos Galan (a'r Calennig), Calan Mai a Chalan Gaeaf yn bodoli, ond dy'n ni ddim yn cyfeirio'n gyffredinol at ddiwrnod cynta'r mis fel 'calan y mis'. Pam ddim?

Hen air hefyd - achos cyntaf wedi'i gofnodi oddeutu'r ddeuddegfed ganrif yn ol GPC, "tranoeth guedi kalan".

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 12:24 pm
gan sanddef
Nos Nadolig
Rhaid cofio fod dan draddodiad hynafol y Celtiaid y mae'r dydd (cylch 24 awr) yn dechrau efo'r nos.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 12:27 pm
gan garynysmon
Dydi 'Nos Nadolig' ddim yn swnio'n iawn i mi. 'Noswyl' fyswn i wastad yn ei ddweud.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 2:27 pm
gan Treforian
Mae'n ymddangos yn rhyfedd i mi bod y gair 'noswyl' i fod i gyfri am y dydd hefyd :?
oes 'na air arall am y dydd tybed?
wedi dweud hynny, mae 'eve' yn y saesneg yn awgrymu'r nos hefyd.

PostioPostiwyd: Gwe 24 Rhag 2004 4:26 pm
gan dafydd
Mae e'n dod o 'Nos Ŵyl', sy ddim yn golygu 'noson yr ŵyl' ond 'y diwrnod a'r noson cyn diwrnod gŵyl' (neu 'vigil' - cyfnod o warchod neu cadw ar ddihun)

PostioPostiwyd: Sul 26 Rhag 2004 9:06 pm
gan Eejit
efallai fod y gair eve wedi dod o'r gair 'evening' a felly yn cyfeirio at y 'noswyl'. ?

PostioPostiwyd: Sul 26 Rhag 2004 11:16 pm
gan dafydd
Eejit a ddywedodd:efallai fod y gair eve wedi dod o'r gair 'evening' a felly yn cyfeirio at y 'noswyl'. ?

Yn ôl y rhan fwyaf o eiriaduron does dim cysylltiad rhwng eve a evening.