Cymedrolwr: Gwen
Cacamwri a ddywedodd:Lle rhech!
dafydd a ddywedodd: Mae yna ddamcaniaethau arall dwi wedi glywed.
Norman a ddywedodd:Deud ta de
dafydd a ddywedodd:Norman a ddywedodd:Deud ta de
Wel dwi ddim eisiau ymddangos yn wirion
Un sy'n dod i'r meddwl yw fod rhaid rhoi ceiniog yn y drws i agor ciwbicl mewn toiledau cyhoeddus yn yr hen amser. Er fod y saeson wedi cadw'r ymadrodd "spend a penny" mae'n siwr fod y pris wedi codi a fod angen ceiniog "sixpence" yn hwyrach ymlaen - "darn chwech" neu "pishyn chwech".
Y posibilrwydd arall (fase'n esbonio pam fod y term yn bodoli mewn rhai ardaloedd gogleddol yn unig) yw fod e'n dod o ardaloedd y chwareli a mwynau copr, lle roedd cwt 'ty bach' gyda lle i chwech person yn unig.
Ond, pwy a wyr, falle mai plentynaidd oedd ein cyn-deidiau a 'lle rhech' oedd y tarddiad go-iawn.
5 miles of piles a ddywedodd:Ti'n iawn. Yn yr hen ddyddiau roedd rhaid talu chwe cheiniog i fynd i doilet cyhoeddus (dyna oedd taid a nain y misus wedi deud wrth beth bynnag).
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 41 gwestai