Tudalen 1 o 2

siolen

PostioPostiwyd: Gwe 12 Awst 2005 5:56 pm
gan dawncyfarwydd
Ydych chi yn gyfarwydd รข'r term 'siolen' am dyrdan? Os ydych chi, mi fyddwch chi yn gweld bod yr anagram Elwyn Siolen o enw'r Hybarch Archdderwydd yn hynod o ffynni.

Dwi'n credu ei bod hi'n werth atgyfodi'r term pe na bai ond er mwyn gallu defnyddio'r anagram yma! :D

PostioPostiwyd: Gwe 12 Awst 2005 6:41 pm
gan Proffesor
Tydw i heb 'i gl'wad o o'r blaen... ond, gan dy fod di wedi codi f'ymwybyddiaeth ynglyn ag o, dwi 'n sylweddoli fod yr anagrameiddiad o enw ein harchdderyn newydd - Elwyn Siolen - yn hynod ffynni. Da ychan.


Petae gennyf i garma gwyrdd, mi fyddwn i'n clicio'r botwm "difyr". :winc:

Siolen

PostioPostiwyd: Gwe 12 Awst 2005 8:22 pm
gan Defi
Siolen maen nhwy'n dweud am hynna yn ardal Cwmgors a Wauncaegurwen ar bwys Brynaman. 'Roedd datcu fi yn dod o fana - a fi'n cofio fe'n dweud pan fi'n fach a heb tynu tsiaen yn y ty bach bod siolens fawr gyda fi ac ystyried oedran fi.

Siolen

PostioPostiwyd: Gwe 12 Awst 2005 8:24 pm
gan Defi
Gyda fy llaw, wyt ti dawncyfarwydd yn dod o Cwmgors neu Wauncaegurwen ed?

PostioPostiwyd: Sad 13 Awst 2005 12:26 am
gan Bol Cwrw
Dyma mam yn deud wrtha i "llai'm diodde enw'r archdderwydd newydd, iiychh."Nes i ddim meddwl am yr anagram dawncyfarwydd, meddwl amdano yn rhoi ei initial ar erthyglau yn ymwneud a steddfodau on i S.Iolen. :lol: O. N. mam yn dod o Gwm Gors.

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 9:08 am
gan crwtyn
Ydi unrhyun yn gwybod os ydi'r gair 'siolen' ar lafar o hyd? Ac os felly ydi e'n ymestyn taug at Rydaman a'r cyffiniau gan nad ydyn nhw'n bell o Waun Cae Gurwen a Chwm Gors?

PostioPostiwyd: Mer 14 Medi 2005 9:21 am
gan Jams
Siolen un cal ei defnyddio yn waelod Cwmtawe a draw at ardal Pontarddulais yn aml. Ni fel teulu yn defnyddio ar lafar jyst bob dydd.
" Ma'r blydi crwt na wedi bloco'r ty bach a siolen to !" ayyb :wps:

PostioPostiwyd: Mer 31 Mai 2006 9:09 am
gan Iesu Nicky Grist
Gair hyfryd. Ond ma seigen 'run mor hyfryd.

PostioPostiwyd: Mer 31 Mai 2006 9:21 am
gan docito
O'n i'n defnyddio siolen yn ysgol - Cwm Gwendraeth am y dyrden ei hunan ac fel ansoddair i ddisgrifo rhwbeth gwael:
E.E

Ffycin el ma fe'n siolen!

PostioPostiwyd: Mer 31 Mai 2006 2:25 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Nawr te, na gair i chi! :D
Jams a ddywedodd:Siolen un cal ei defnyddio yn waelod Cwmtawe

A lan top 'ed.
Pob tro fi'n myn mewn i dafarn yn Ystradgynlais pan dwi chythre na gyd fi'n glwyed o'n Wncwl i ydy 'Hei siol'. Chiars, butt.