gan sian » Sul 09 Gor 2006 3:52 pm
Reit!
Yn ôl GPC, mae "saig" a'r bachigyn "seigen" sef "saig fach" yn golygu:
dysglaid o fwyd, dysg, cwrs mewn pryd bwyd, gwledd neu rywbeth neis!
e.e. Yn y 13eg ganrif: A'r eyl seyc anrydedussaf en e llys a dely ef [penteulu] y chaffael, a henny en gyntaf guedy y brenhyn. E ancvyn yw teyr seyc"
(hynny yw, os yw'r Kymro Kanol yn cytuno, "Y penteulu sydd i fod i gael y bwyd ail orau yn y llys - Y brenin sydd i fod i gael y bwyd gorau - mae e i fod i gael tair saig."
a 14/15g, Siôn Cent:
"Mae'r sew? Mae'r seigiau newydd?
Mae'r cig rhost? Mae'r cog a'u rhydd?"
OND mae hefyd yn dweud: Ar lafar yn siroedd Caerfyrddin a Phenfro, "Saig = a small heap of cow dung"; hefyd yn y ffurf "seigen" yn yr ystyr "darn o gachu". Ym Morgannwg, clywir "s(e)igan" yn yr ystyr "lwmp o fenyn".
Rhyfedd fel mae'r un gair yn golygu dau beth hollol wahanol.
Siwr bod nhw'n cael hwyl mewn gwersi coginio yn ysgolion Sir Gaerfyrddin a Phenfro "Heddi ry'n ni am baratoi saig arbennig!"