Re: siolen
Postiwyd:
Mer 31 Mai 2006 2:28 pm
gan Tegwared ap Seion
dawncyfarwydd a ddywedodd:Ydych chi yn gyfarwydd â'r term 'siolen' am dyrdan? Os ydych chi, mi fyddwch chi yn gweld bod yr anagram
Elwyn Siolen o enw'r Hybarch Archdderwydd yn hynod o ffynni.
Dwi'n credu ei bod hi'n werth atgyfodi'r term pe na bai ond er mwyn gallu defnyddio'r anagram yma!
Ah, gymrodd hi eiliad i fi sylwi ma tyrdan udis di a nid trydan! Mae gen i gyfneither a'i henw S. Iolen. Rhaid ei rhybuddio, rhywfodd!
Postiwyd:
Mer 31 Mai 2006 2:58 pm
gan ceribethlem
Fi'n defnyddio'r term siolen o hyd. Phan o ni mas ar y pop yn Gaerfyrddin un nos gyda Iewstyn ap a Iesu Nicky Grist, dyma ni'n trafod y gwahaniaeth rhwng
texture siolen a seigen. Jiw, na beth o'dd sgwrs diddorol.
Iesu Nicky Grist oedd yn gwbod fwyaf am y ddau, er mawr syndod
Postiwyd:
Mer 31 Mai 2006 4:39 pm
gan Rhodri Nwdls
Mae'r ddau air eisioes a'u priod le yn y Rhegiadur (
yn ogystal â sawl gair arall...)
Postiwyd:
Sul 09 Gor 2006 3:28 pm
gan crwtyn
Felly be ydy 'seigen' yn gymws? Wy eriod di clywed y gair ar lafar ond wy'n cofio darllen rhywbeth amdano sbel nol. Roedd y Cymry clawd yn arfer casglu tail gwartheg wedi'i sychu oddi ar y cae. Defnyddwyd hyn fel tanwydd a'r enw arno yn y rhan fwyaf o ardaloedd oedd 'gleuad'. Ond enw arall yn y de oedd 'seigen'.
Felly odi 'shiolen' yn cyfeirio at faw dyn a 'seigen' at faw anifeiliaid (neu wartheg yn unig)? Ac yfe dim ond yn sir Gar mae'r gair yn cael ei arfer? Ac oes na lot o ddefnydd ar y gair o hyd?
Postiwyd:
Sul 09 Gor 2006 3:52 pm
gan sian
Reit!
Yn ôl GPC, mae "saig" a'r bachigyn "seigen" sef "saig fach" yn golygu:
dysglaid o fwyd, dysg, cwrs mewn pryd bwyd, gwledd neu rywbeth neis!
e.e. Yn y 13eg ganrif: A'r eyl seyc anrydedussaf en e llys a dely ef [penteulu] y chaffael, a henny en gyntaf guedy y brenhyn. E ancvyn yw teyr seyc"
(hynny yw, os yw'r Kymro Kanol yn cytuno, "Y penteulu sydd i fod i gael y bwyd ail orau yn y llys - Y brenin sydd i fod i gael y bwyd gorau - mae e i fod i gael tair saig."
a 14/15g, Siôn Cent:
"Mae'r sew? Mae'r seigiau newydd?
Mae'r cig rhost? Mae'r cog a'u rhydd?"
OND mae hefyd yn dweud: Ar lafar yn siroedd Caerfyrddin a Phenfro, "Saig = a small heap of cow dung"; hefyd yn y ffurf "seigen" yn yr ystyr "darn o gachu". Ym Morgannwg, clywir "s(e)igan" yn yr ystyr "lwmp o fenyn".
Rhyfedd fel mae'r un gair yn golygu dau beth hollol wahanol.
Siwr bod nhw'n cael hwyl mewn gwersi coginio yn ysgolion Sir Gaerfyrddin a Phenfro "Heddi ry'n ni am baratoi saig arbennig!"
Postiwyd:
Maw 11 Gor 2006 6:48 pm
gan crwtyn
Diolch yn fawr Sian!
Tybed beth mae'r term yn feddwl yn gymwys i'r rhai ar y maes sy'n hoff o'i arfer (ych chi'n gwbod pwy ydych!)?