Geiriau Cwm Gwendraeth

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan ceribethlem » Llun 11 Ebr 2011 7:03 pm

crwtyn a ddywedodd:Unrhyw feddyliau am ffarne neu clawdd fel wal gardd???

Bydden i'n gweud perth am y planhigion sy'n tyfu (hedge yn Saesneg) a chlawdd am y lwpyn o dir odano fe (fel clawdd Offa).
Fel adamjones bydden i hefyd yn gweud colfen am goeden (neu darn o goeden wedi cwmpo).
Eto, fel adamjones, bydden i'n gweud y nall.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan crwtyn » Llun 11 Ebr 2011 7:23 pm

Ie, dw i wrth fy modd gyda tafodieithoedd. Mae'r teulu'n hannu o Landybie ond fawr o gyfle dw i'n cael i siarad a'r bobl leol. Mae dad heb fyw yno ers y 60-au, felly mae fe wedi anghofio lot. Felly, mae'n wych cael gofyn ydy hyn a hyn ar lafar neu beidio. Rwy'n trial dodi rhestr o eiriau a termau at ei gilydd gan ddefnyddio ffynonellau amrywiol iawn, megis tapiau sain Saint Ffagan, siaradwyr o'r ardal ar S4C, pytiau dw i'n clywed gan bobl y gwaith, awduron yr ardal, a casgliadau mewn print. Mae casgliadau'n ddiddorol (yn enwedig traethawd MA ar Iaith Dyffryn Aman) ond wrth gwrs, fe geson nhw eu gwneud yn y -20au a'r -30au, felly yn aml iawn, sai'n siwr os ydy'r geiriau wedi hen fynd neu beidio.

O ran 'ffarne', mae'n tarddu o hen air Celtaidd gyda termau tebyg iawn yng Nghernyweg a Llydaweg. E.e. 'ufern' yw'r gair Llydaweg modern. Diddorol iawn bod e dal ar lafar cyffredin. Fyddech chi'n gweud 'uffarn' am un neu ddim ond yn ei ddefnyddio yn y lluosog???

Ie, colfen dw i'n gweud weithiau, er mod i'n becso am bobl yn peidio a deall! Rwy'n gwybod y gwahaniaeth safonol rhwng 'perth' a 'clawdd' ond ydy 'clawdd' yn gallu golygu rhyw fath o wal briciau pwrpasol am waelod gardd er enghraifft?
crwtyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Mer 14 Medi 2005 8:58 am
Lleoliad: Caerdydd (ond a'm calon o dan y Mynydd Du)

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan adamjones416 » Mer 13 Ebr 2011 10:41 pm

Wrth sôn am rhyw wal ar waelod yr ardd yr unig beth alla i feddwl amdano i gyfleu'r hyn ti'n ceisio'i ddweud yw 'Bancyn' ond ma hwnnw'n tarddu o'r Saesneg 'Bank' ond bydden i yn defnyddio hwnna'n aml.

Dyma rhai o eiriau penodedig sydd yn perthyn i'r tafodiaith y defnyddiaf i'n aml,

Pacha - Peidiwch â
Acha - ar rywbeth
Colfen - Coeden
Dalpe - darne, saesneg clott
Oefad - Nofio
Nished - Hances
Taffish - Losin
Wedi went neu wedi trigo - wedi marw
Galafantan - galavanting
Paradan - Parading yn y cyfystyr - Pacha paradan o gwmpas y stryd yn hwyr yn y nos nawr
Bosh - sinc
Coethan/Bigitan - dadlau
Mencyd - menthyg
Bwch y danas - Carw
Can - blawd plaen
Fflwr - Blawd a lefain ynddo
Blawd - blawd pren (wrth lifio)
Carcus - ofalus - Bydda'n garcus
Clatshen - clwb pum/ taro rhywun
Whado - Curo neu i gael y gorau o rywun 'Rho whadad iddo fe'r diawl bach shimpil'
Cwato - cuddio
Derot - Adar
Whilia - Siarad neu 'Be ti whilia? - siarad lol
Ercyd - mofyn, mynd i hol rhywbeth
Ido - becso - Sai'n ido (dwi ddim yn poeni/becso)
Llawn - yn feichiog neu'n feddw gaib
Maldod - mwytho anifail
Pice - cacennau
Raca - cribyn wair
Odd ishe shigwdad arno'r crwt - odd eisie iddo fe dynnu'i fys allan
Tegyl - Tegell
Merthil - nid mwrthwl na gordd ond rhywbeth yn y canol
Tyrfe - tarannau
Weret - bwrw rhywun e.e ' Os nagwyt ti'n gryndo arna'i grwt gei di weret nes bo ti'n tasgu'
Whilibowtan - neud dim byd fawr o iws

Ma tueddiad yn yr ardal hefyd i dreiglo CH, ma hwn yn mynd i swnio'n rhyfedd ond nid treiglo falle ond gollwng y Ch, e.g Chwarae - Mynd i whare (yn hytrach na chwarae awgrymu rhyw fath o dreiglo) Mynd i whilio (chwilio) O'n i'n wherw (chwerw) Chwytha fe cyn iddo fe wythu mas (awgrym eto o dreiglo'r ch, ma angen ymchwilio yn fwy i mewn i'r gollwng y CH 'ma. Dwi'n gryf o'r farn bod na rhyw dreiglad wedi bodoli yn y gorffennol sydd wedi'i hen anghofio ond mae dal i fodoli yn Nhafodiaith yr ardal efallai.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan crwtyn » Iau 14 Ebr 2011 12:46 pm

Ok, falle dw i wedi camgymeriad o ran clawdd = wal gardd.

Diolch yn fawr am y rhestr hefyd – mae’r rhain i gyd yn gyfarwydd i fi. Y’ch chi’n credu taw’r Saesneg ‘went’ sy’ yno yn ‘wedi went/trigo’? Rwy’n nabod rhywun sy’n gweud hynny o ran chwarae o gwmpas i feddwl ‘wedi mynd’ ond dim yn yr ystyr ‘trigo’.

O’n i’n meddwl bod ‘coethan’ mwy fel ‘siarad yn gas am rywun’ yn lle ‘dadlau’.

Diddorol iawn am “chwytha…whythu” treiglad. Sai’n gallu ychwanegu unrhywbeth at hwnna (diffyg siarad â’r trigolion) ond efallai mae ‘na rywbeth yno.

Mae’r rhestr sy’ gyda fi’n faith iawn (rhyw 32 o dudalennau A4 – gan gynnwys lot o bethau fel amrywiadau yn yr ynghaniad ac ati) ond sai’n gwybod os ydy’r rhai o’r geiriau dal ar lafar. Efallai rwy’n gallu ei hanfon hi atoch chi i gael pip Adamjones?

Gyda llaw, dw i wedi datrys tarddiad ‘efar’. Nid arffed yw e ond o ‘efrau/efer’, sef chwyn sy’n tyfu ymysg ŷd. Yn ôl Geiriadur y Brifysgol, “Yng Nghered. a’r Deau sonnir am ‘(h)efer o beth’. ‘(h)efer o lwyth’, &c., yn yr ystyr ‘mawr, enfawr, clamp (o beth).” Dyna’r elfen sy’ yn ‘Din-efwr’. Cymharer ‘y crwt penefer’.

Ydy’r term ‘sgyfyllus o ôr’ yn gyfarwydd i chi???
crwtyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Mer 14 Medi 2005 8:58 am
Lleoliad: Caerdydd (ond a'm calon o dan y Mynydd Du)

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan adamjones416 » Gwe 15 Ebr 2011 10:23 am

Ie gei di anfon y rhestr atai os wyt yn dymuno byddai'n ddiddorol iawn :)

adamjones416@aol.com yw'r e-bost.

Sai erioed 'di gweud sgyfyllus o or na chlywed amdano, Wi jyst a sythu (bydden i'n gweud)
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan Kez » Gwe 15 Ebr 2011 4:40 pm

crwtyn a ddywedodd:

Diolch yn fawr am y rhestr hefyd – mae’r rhain i gyd yn gyfarwydd i fi. Y’ch chi’n credu taw’r Saesneg ‘went’ sy’ yno yn ‘wedi went/trigo’? Rwy’n nabod rhywun sy’n gweud hynny o ran chwarae o gwmpas i feddwl ‘wedi mynd’ ond dim yn yr ystyr ‘trigo’.


Jocan mae pobol wrth ddweud pethau fel 'wedi went' - Na fe sdim loshin ar ol nawr - wedi went! Peth arall tebyg ti'n clywed yw 'gweddol a bit' - shwt yt ti? Gweddol a bit neu'r gwetiad 'trist iawn, feri sad. Jocan wrth gymysgu'r Gymraeg a Saesneg yw hynna.

Bach yn wael yw gweud 'wedi went' am rywun sydd wedi marw ond sbozzo bo ti'n gallu gweud ny - yn union fel mae pobol yn gweud 'cico'r bwced' neu 'ei phego hi'.
Ifi, mae anifeiliaid yn trigo ond mae pobol yn marw.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan sian » Gwe 15 Ebr 2011 8:27 pm

Kez a ddywedodd:Ifi, mae anifeiliaid yn trigo ond mae pobol yn marw.


Ie - mae anifeiliaid yn trigo - â "i" fer - ond mae pobl yn trigo - ag "i" hir - sy'n golygu byw yn rhywle.

Odd y gath wedi trigo ym mhen draw'r ardd.
Trigai Hywel Gruffydd yn Sir Fôn. (eitha ffurfiol)
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron