gan crwtyn » Llun 11 Ebr 2011 7:23 pm
Ie, dw i wrth fy modd gyda tafodieithoedd. Mae'r teulu'n hannu o Landybie ond fawr o gyfle dw i'n cael i siarad a'r bobl leol. Mae dad heb fyw yno ers y 60-au, felly mae fe wedi anghofio lot. Felly, mae'n wych cael gofyn ydy hyn a hyn ar lafar neu beidio. Rwy'n trial dodi rhestr o eiriau a termau at ei gilydd gan ddefnyddio ffynonellau amrywiol iawn, megis tapiau sain Saint Ffagan, siaradwyr o'r ardal ar S4C, pytiau dw i'n clywed gan bobl y gwaith, awduron yr ardal, a casgliadau mewn print. Mae casgliadau'n ddiddorol (yn enwedig traethawd MA ar Iaith Dyffryn Aman) ond wrth gwrs, fe geson nhw eu gwneud yn y -20au a'r -30au, felly yn aml iawn, sai'n siwr os ydy'r geiriau wedi hen fynd neu beidio.
O ran 'ffarne', mae'n tarddu o hen air Celtaidd gyda termau tebyg iawn yng Nghernyweg a Llydaweg. E.e. 'ufern' yw'r gair Llydaweg modern. Diddorol iawn bod e dal ar lafar cyffredin. Fyddech chi'n gweud 'uffarn' am un neu ddim ond yn ei ddefnyddio yn y lluosog???
Ie, colfen dw i'n gweud weithiau, er mod i'n becso am bobl yn peidio a deall! Rwy'n gwybod y gwahaniaeth safonol rhwng 'perth' a 'clawdd' ond ydy 'clawdd' yn gallu golygu rhyw fath o wal briciau pwrpasol am waelod gardd er enghraifft?