Geiriau Cwm Gwendraeth

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Geiriau Cwm Gwendraeth

Postiogan crwtyn » Mer 14 Medi 2005 9:35 am

Ysgwn i os gallai defnyddwyr y maes o'r ardal yn fy helpu fi. Des i ar draws cwpl o eiriau diddorol Cwm Gwendraeth ar wefan y BBC "Lleisiau":

"Golwg shibec" - sy'n golygu golwg welw. Dyw'r gair ddim i'w weld yn G.P., wel nage o dan y lle amlwg ta p'un. Felly odi e'n rhywbeth eithaf newydd? Mae geiriau fel hyn yn tarddu o'r Saesneg fynychaf ond sai'n gallu meddwl am darddiad yma. Odi e'n air sy'n codi'n lled aml mewn sgwrs?

"Unllug/yr enllug" - ar gyfer 'hunllef'. Mewn sgwrs a recordiwyd ar gyfer y gyfres mae dyn yn son am ei dad yn cael 'unllug' ar ol bwyta hwyr y nos ac mae fe'n esbonio hynny fel 'nightmare'. Eto, dyw e ddim yn G.P. Ai amrywiad ar ynghaniad 'hunllef' yw e neu air arall tybed?
crwtyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Mer 14 Medi 2005 8:58 am
Lleoliad: Caerdydd (ond a'm calon o dan y Mynydd Du)

Postiogan Jams » Mer 14 Medi 2005 9:46 am

O Llannon ma'n fam yn enedigol a ma 'golwg shibec' yn hen ddywediad sef fwy na 30 mlynedd fi'n weddol siwr.
'Na fel ma hi, a fel na fydd hi, os na newidyff hi

Sheriff Buford T. Justice - "Junior, there is no way you are the fruit of my loins. When I get home I'm gonna smack your mamma in the mouth"
Rhithffurf defnyddiwr
Jams
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 1:58 pm
Lleoliad: Felindre, Abertawe

Postiogan Bleddyn Bilsen » Mer 14 Medi 2005 10:23 am

Mae fy nhad yn deud bod rhywbeth yn sbêc os yw ddim yn dda iawn. Ydi hynny run peth? (h.y. golwg shibec/sbêc = golwg wael/ddim yn dda) Roedd ei fam yn dod o ardal Penygroes (Sir Gaerfyrddin) ond o Sir Benfro mae o'n dod.
Brechdanau Maltesers? Faint mor wacky ydach chi bois!
Rhithffurf defnyddiwr
Bleddyn Bilsen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 183
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 1:37 pm
Lleoliad: Eldon Terrace.

Postiogan bartiddu » Mer 14 Medi 2005 11:05 am

Shibec..tebyg i shabwchedd Sir Aberteifi am golwg afler, "Jiw o'dd golwg shabwchedd arni" :)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan gronw » Mer 14 Medi 2005 8:21 pm

Bleddyn Bilsen a ddywedodd:Mae fy nhad yn deud bod rhywbeth yn sbêc os yw ddim yn dda iawn...

mae mam yn dweud bod golwg sbêc ar rywun hefyd pan mae golwg fach ryfedd arnyn nhw h.y. ddim yn daclus iawn. o'n i'n meddwl bod hyn yn 100% machynllethspeak ond mae'n amlwg yn ehangach na hynny. ond ddim yn siwr os ydy o'n dod o'r un lle â shibec, a dim syniad o lle daeth yr enw! sbêc.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Bleddyn Bilsen » Iau 15 Medi 2005 2:58 pm

gronw a ddywedodd:
Bleddyn Bilsen a ddywedodd:Mae fy nhad yn deud bod rhywbeth yn sbêc os yw ddim yn dda iawn...

mae mam yn dweud bod golwg sbêc ar rywun hefyd pan mae golwg fach ryfedd arnyn nhw h.y. ddim yn daclus iawn. o'n i'n meddwl bod hyn yn 100% machynllethspeak ond mae'n amlwg yn ehangach na hynny. ond ddim yn siwr os ydy o'n dod o'r un lle â shibec, a dim syniad o lle daeth yr enw! sbêc.

Aaa, bosib mae o ochr fy mam mae'r gair yn dod - oedd ei thad hi'n dod o Sir Drefaldwyn. Ond ma'n rhaid bod cyswllt rhwng Sbêc a Shibec ma achos mae'r ddau air yn swnio'n debyg a gyda ystyron tebyg.

Nol at Gwm Gwendraeth y gair mwya diarth i mi yw 'Wilia / Wila' am siarad - beth yw tarddiad hynny?
Brechdanau Maltesers? Faint mor wacky ydach chi bois!
Rhithffurf defnyddiwr
Bleddyn Bilsen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 183
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 1:37 pm
Lleoliad: Eldon Terrace.

Postiogan Dwlwen » Iau 15 Medi 2005 3:22 pm

Helo, siradwyr Grav, un ac oll ... :rolio: (Wele ddolen i'r rhestr ar wefan y BBC.)

Wy'n dod o Bontyberem, ond 'rioed 'di defnyddio'r gair 'shibec' (sori) - os cyswllt â'r saeneg, 'shabby'?

Parthed 'wilia', eto, dyw e'm yn air 'sen i'n ei ddefnyddio (o'n i'n meddwl fod hwnna'n fwy o air Preseli...?) Yn dafodiaethol, 'lapan' fydden i'n 'i ddefnyddio am siarad e.e. Gad dy lap...

Fy hoff eiriau Cwm Gwendraeth-aidd: whilmentan, bigitan, tosyn, (lan y) tyle, (lawr 'i) wired, acha, toc (o fara), stecs.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan sian » Iau 15 Medi 2005 6:36 pm

Bleddyn Bilsen a ddywedodd:Nol at Gwm Gwendraeth y gair mwya diarth i mi yw 'Wilia / Wila' am siarad - beth yw tarddiad hynny?


Maen nhw'n dweud bod "wilia" yn dod o "chwedleua". Da de?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Cwm Gwendraeth

Postiogan Defi » Iau 15 Medi 2005 7:36 pm

Tadcu fi'n dod o Gwauncaegurwen a Cwmgors, a fe byth yn siarad Cymraeg, - 'whilia Cwmrag' oedd fe'n gwneud. Pan fydde fi a chwaer fi yn mynd i gweld nhwy ar y Waun, a fi'n gweud rhywbeth stupid, byddai tadcu fi'n troi ata fi a gweud = Be ti'n whilia shwt dwli bachan jawl. Beth uffarn sy ant ti? A bydde famgu fi wedyn yn mynd mas o chof hi at tadcu fi am bod fe wedi regi arna fi! Good old days oedd rheina ed.
Defi wyf i, o Drefernar - yn dysgu Cymraeg ac yn ymweld a gwefannau diddorol. Fy niddordebau yw hanes Cymru a'i llenyddiaeth.
Defi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 80
Ymunwyd: Maw 21 Meh 2005 8:58 pm
Lleoliad: Trefernar

Postiogan cyfrinair » Iau 15 Medi 2005 8:31 pm

O'n i arfer byw yng Nghwmgors, ag o'n clywed "whilia" drwy'r amser. Credu bod e'n mynd mor bell â Phontarddulais a Felindre fyd - felly, nid mond yn Nyffryn Aman.
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron