Geiriau Cwm Gwendraeth

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jams » Gwe 16 Medi 2005 8:29 am

cyfrinair a ddywedodd:O'n i arfer byw yng Nghwmgors, ag o'n clywed "whilia" drwy'r amser. Credu bod e'n mynd mor bell â Phontarddulais a Felindre fyd - felly, nid mond yn Nyffryn Aman.


Digon gwir - ma whilia yn cael ei defnyddio yn Felindre a'r Bont yn aml. "Odd e yn whilia a'i hunan!" Fi'n siwr bod y gair yn cael ei defnyddio yn rhanne o Gwm Gwendraeth efyd

Os rhywun arall yn defnyddio'r gair 'ronc' ? Meddwl cryf yn ystyr - "odd acen gogleddol ronc arno fe!"
'Na fel ma hi, a fel na fydd hi, os na newidyff hi

Sheriff Buford T. Justice - "Junior, there is no way you are the fruit of my loins. When I get home I'm gonna smack your mamma in the mouth"
Rhithffurf defnyddiwr
Jams
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 176
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 1:58 pm
Lleoliad: Felindre, Abertawe

Postiogan crwtyn » Gwe 16 Medi 2005 11:53 am

:D Dw i'n defnyddio 'rhonc' yn gysylltiedig mwy gyda phobl, fel 'ceidwadwr rhonc' ac wrth gwrs yn bennaf 'Sais rhonc'. Mae'r ystyr yw 'through and through', 'staunch'. Ond ie mae yn siwtio rhywbeth fel acen rhywun 'fyd.

Pwy sy'n defnyddio'r rhain:

Speng/spengan; whimlyd; sbratian; cetyn?
crwtyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 21
Ymunwyd: Mer 14 Medi 2005 8:58 am
Lleoliad: Caerdydd (ond a'm calon o dan y Mynydd Du)

Postiogan bartiddu » Gwe 16 Medi 2005 12:04 pm

Gad dy speng nawr grwtyn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan sian » Gwe 16 Medi 2005 12:50 pm

"sbeng" a "cetyn" (tamed bach o amser) ym Mhencader - heb glywed y lleill.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan gronw » Gwe 16 Medi 2005 6:00 pm

crwtyn a ddywedodd:Dw i'n defnyddio 'rhonc' yn gysylltiedig mwy gyda phobl, fel 'ceidwadwr rhonc' ac wrth gwrs yn bennaf 'Sais rhonc'. Mae'r ystyr yw 'through and through', 'staunch'. Ond ie mae yn siwtio rhywbeth fel acen rhywun 'fyd.

cytuno, ond yn fy meddwl i mae connotations mwy negyddol i 'rhonc' na jyst 'staunch' sy'n gallu bod yn beth da neu'n beth gwael. ar y cyfan, mae rhonc yn cael ei gadw i bethe negyddol fel saeson a cheidwadwyr :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Bleddyn Bilsen » Llun 19 Medi 2005 10:57 am

sian a ddywedodd:"sbeng" a "cetyn" (tamed bach o amser) ym Mhencader - heb glywed y lleill.

Wedi clywed Grav yn defnyddio cetyn amryw o weithiau e.e. 'cetyn eiliad' (ei gyfieithiad o split-second siwr o fod) a 'cetyn bas'.
Brechdanau Maltesers? Faint mor wacky ydach chi bois!
Rhithffurf defnyddiwr
Bleddyn Bilsen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 183
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 1:37 pm
Lleoliad: Eldon Terrace.

Postiogan Bleddyn Bilsen » Llun 19 Medi 2005 11:01 am

gronw a ddywedodd:
crwtyn a ddywedodd:Dw i'n defnyddio 'rhonc' yn gysylltiedig mwy gyda phobl, fel 'ceidwadwr rhonc' ac wrth gwrs yn bennaf 'Sais rhonc'. Mae'r ystyr yw 'through and through', 'staunch'. Ond ie mae yn siwtio rhywbeth fel acen rhywun 'fyd.

cytuno, ond yn fy meddwl i mae connotations mwy negyddol i 'rhonc' na jyst 'staunch' sy'n gallu bod yn beth da neu'n beth gwael. ar y cyfan, mae rhonc yn cael ei gadw i bethe negyddol fel saeson a cheidwadwyr :winc:

Cytuno. Yr unig esiamplau o rhonc dwi wedi clywed yw 'sais rhonc' a 'tory rhonc'. Dwi rioed wedi clywed son am 'Gymro rhonc' - dim ond pethau gwael sydd yn rhonc mae'n debyg.
Brechdanau Maltesers? Faint mor wacky ydach chi bois!
Rhithffurf defnyddiwr
Bleddyn Bilsen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 183
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 1:37 pm
Lleoliad: Eldon Terrace.

Postiogan Lowri » Llun 19 Medi 2005 1:56 pm

Fel person sy'n byw yng Nghwm Gwendraeth, ma shibec yn air sydd wedi cael ei ddefnyddio yn yr ardal ers blynydde!! Ma menyw sy'n byw ar yn pwys ni (80+oed) yn defnyddio'r gair.

Chi'n gwbod beth yw ystyr shwblachad?
Mae'r cariad at y Cwm yn berwi yn fy ngwaed
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 521
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 2:44 pm
Lleoliad: Cwm Gwendraeth

Postiogan Iesu Nicky Grist » Llun 19 Medi 2005 3:54 pm

Wy'n defnyddio "rhonc", "bigitan"(gat dy figits 'an), "toc o fara", a "gat dy lap" (sai lico lapan - ma'n atgoffa fi o fwni binc) a "cetyn". Wedi clywed "shibec" ond so'n gluste'i ddigon mowr i iwso'r gair. :winc:

Glywes i biwt o air yn ddiweddar 'da bachan o Gwm Gwendraeth - shimpyl / shimpil? (ffaaaac ol o idea 'da fi fel ma'i sillafu fe - ond ma'n golygu rhywbeth tebyg i llipa (wel...?) )
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Dwlwen » Llun 19 Medi 2005 4:01 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Glywes i biwt o air yn ddiweddar 'da bachan o Gwm Gwendraeth - shimpyl / shimpil? (ffaaaac ol o idea 'da fi fel ma'i sillafu fe - ond ma'n golygu rhywbeth tebyg i llipa (wel...?) )

Gat dy lap y crwtyn shimpil hanner pan. (Nid ti Iesu.) Brawddeg hyfryd o abiws n'est-ce pas?

O.N. Pwy arall sy'n defnyddio 'carad' yn yr un ystyr a 'cwtch'?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 30 gwestai