Falle bo hwn yn hen ond am hen ddwli am y llai o Gwmrag chi'n clywed yn Nyffryn Aman a chi'n clywed yr agosa chi'n mynd sha Cwm Gwendreth? Ma Glaman a Braman yn lot mwy Cymreigaidd na gwedwch Pont-iets, Mynydd y Garreg, Cross Hands, Trimsaran. Bythdi'r un nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghwmaman a Brynaman a sydd ym Mhontyberem. Lot o Sisneg i'w glywed yn Nhumble, Cross Hands a Thrimsaran.
Y wahaniaeth mwya yn y tafodieithoedd yw'r ffaith bod yr hen 'whenwyseg h/y tafodiaeth Morgannwg dal yn bodoli mewn elfennau o Gymraeg Dyffryn Aman tra bod Cwm Gwendraeth yn fwy 'Tafodiaith Shir Gar safonol'.
E.e Tafodiaith Dyffryn Aman
'Smoi'n gweu'tho ti 'to 'chan, wi weti catw efad o fale i ti reit ond smoi'n gylled diall bo ti'm ishe'u catw nhw acha bainc rhac ofan cewn ni law a bydd nhw'n oifad bobman'
Tafodiaith Cwm Gwendraeth
Sai'n gweud'tho ti 'to 'chan, rwy wedi cadw coeled o afale i ti reit ond sai'n gallu diall bo ti'm ishe'u cadw nhw ar ford rhag ofan cewn ni law a bydde nhw'n nofio bobman'.
Mae'r caledu dal yn bodoli yn Nyffryn Aman a'r traddodiad i ddweud 'ws e.e Rhedws e lawr yr hewl i ercyd powled o daffish ond cwmpws e a nafi'i go's. (rhedodd e lawr yr heol i mofyn bowlen o losin ond cwympodd e a brifo'i goes.