Ym Mhencader, fysen ni'n gweud bod "golwg shimpil" ar rywun oedd yn edrych yn anhwylus.
Ond rwy wedi clywed rhai - o Sir Benfro? - yn defnyddio "shimpil" am "simple" - bach yn dwp.
"magad" sen i'n gwneud am "carad".
Cymedrolwr: Gwen
Defi a ddywedodd:Roedd dadcu fi yn gweud cetyn ar Gwauncaegurwen. Roedd fe'n defnyddio fe mewn sawl ystyr:
1. 'Bachan 'smo fi wedi dy weld ti ys cetyn'. = Hwnna'n golygu bod fe ddim wedi gweld y bachan er ys tro byd (lot o amser).
2. 'Faint o dartan fala i chi'n moy'n dadcu?' Ateb: 'Dim lawar - cetyn bach i fi, diolch' = Hwnna'n golygu pishyn, neu 'tocyn' bach o dartan fala.
3. 'Dyw'r beic newydd yna ti di gal ddim lawar o gop yw e. Beth yw shwd getyn beic' = Hwnna'n diraddiol o'r beic. Beth yw shwd getyn jalopi.
4. 'Symud y cetyn trugaredda yna o'r ffordd, ma nhwy dan draed' = Diraddiol eto.
4. 'Oi, o's rywun wedi weld y ngetyn i? = Cetyn odda'n gweud am bib(ell) y bydda fa'n smoco.
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:Defi a ddywedodd:Roedd dadcu fi yn gweud cetyn ar Gwauncaegurwen. Roedd fe'n defnyddio fe mewn sawl ystyr:
1. 'Bachan 'smo fi wedi dy weld ti ys cetyn'. = Hwnna'n golygu bod fe ddim wedi gweld y bachan er ys tro byd (lot o amser).
2. 'Faint o dartan fala i chi'n moy'n dadcu?' Ateb: 'Dim lawar - cetyn bach i fi, diolch' = Hwnna'n golygu pishyn, neu 'tocyn' bach o dartan fala.
3. 'Dyw'r beic newydd yna ti di gal ddim lawar o gop yw e. Beth yw shwd getyn beic' = Hwnna'n diraddiol o'r beic. Beth yw shwd getyn jalopi.
4. 'Symud y cetyn trugaredda yna o'r ffordd, ma nhwy dan draed' = Diraddiol eto.
4. 'Oi, o's rywun wedi weld y ngetyn i? = Cetyn odda'n gweud am bib(ell) y bydda fa'n smoco.
Heblaw am alw pib yn bib, fi'n defnyddio cetyn ymhob un o'r enghreifftie uchod. O'n i'm yn sylweddoli bo fi mor hen.
Am nifer fawr/llwyth o 'rywbeth' rwy'n dweud "carn". Rhywun arall?
"Owwww, odd carn o bobol yn show 'leni..." neu "Ma Wncwl Dewi 'da carn o borno dan 'i fatras..."
Dafydd Hywel a ddywedodd:1. Beth yw ei steil nhw? Steil yw Cyfenw.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai