Tudalen 5 o 7

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2005 11:46 am
gan Fatbob
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:
Rhacs ar gyfer rhywbeth sy wedi'u gor-ddefnyddio - dillad rhacs, ma'r gwely'n rhacs, ma dy shoes di'n rhacs. Ond rhacso yw dinistrio. "Chi 'di rhacso'r berth 'na 'da'ch cloddio. Ffacin cownsil. :rolio: "



Rhacs yn un cyfarwydd iawn, ma crwt ein hadeiladwr ni'n stico dweud fod ein tŷ ni'n rhacs (na'i blydi rhacso fe os yw e'n cario mlan). Clawdd wede fi nid perth a ceibo yn lle cloddio, ond ma'n dafodiaeth i yn bach o bastardisation - Mam o Gwm Gwendraeth, Dad o'r Rhondda a finne o Gaerdydd(diolch byth y mod i di gadael lot o dafodiaeth Caerdydd ar yn

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2005 11:51 am
gan ceri matho
colfen yw "knot" hy brigyn hefyd.
tsils = shilts hefyd
oifad - am air hyfryd. ar ol oifad, taclu ne by' ti'n scarjo
(h)yncisher = nished

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2005 1:13 pm
gan Iesu Nicky Grist
Fatbob a ddywedodd:Rhacs yn un cyfarwydd iawn, ma crwt ein hadeiladwr ni'n stico dweud fod ein tŷ ni'n rhacs (na'i blydi rhacso fe os yw e'n cario mlan). Clawdd wede fi nid perth a ceibo yn lle cloddio, ond ma'n dafodiaeth i yn bach o bastardisation - Mam o Gwm Gwendraeth, Dad o'r Rhondda a finne o Gaerdydd(diolch byth y mod i di gadael lot o dafodiaeth Caerdydd ar yn

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2005 1:40 pm
gan Fatbob
Iesu Nicky Grist a ddywedodd: Ceibo fydden i wrth agor bedd 'da caib. Cloddio yw be fydden i'n neud wedi'r initial stage o agor y bedd - hy - y gwaith caled


Torrwr bedde yw dy alwedigaeth di ife? :winc:

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2005 1:52 pm
gan Iesu Nicky Grist
Fatbob a ddywedodd:Torrwr bedde yw dy alwedigaeth di ife? :winc:


Ma 'da fi ddou wncwl sy'n agor beddi. Ffac ol o glem da fi. Ma'n ffacin grefft whare teg.

PostioPostiwyd: Iau 29 Medi 2005 3:09 pm
gan crwtyn
Lowri a ddywedodd:Wedi sylwi bod llawer ohonoch chi'n trafod tafodiaith Dyffryn Aman yn yr edefyn hwn hefyd! Penygroes yw'r ffin rhwng Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman!!


Cytuno yn ddaearyddol ond oes na lawer o wa'nieth rhwng iaith lafar y ddwy ardal? Rwy wedi meddwl ario'd eu bod nhw'n debyg iawn o ran ynganiad a geirfa. Odw i mas ohoni yma? I fi mae iaith Rhydaman yn debycach o lawer i iaith Pontyberem na Dyffryn Tywi er bod Dyffryn Tywi efallai yn nes ato o ran pellter.

Odi geiriau, priod-ddulliau ac ynganiadau sy' yn y naill iaith ond nid y llall? A gewn ni help gan ddefnyddwyr o Ddyffryn Aman?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2005 10:07 am
gan Lowri
Ma'r un acen h.y llafariaid caedig yn perthyn i'r ddwy dafodiaith, ond ma na wahaniaethau yn perthyn iddynt hefyd. Mae tafodiaith Dyffryn Aman yn agosach i fod yn debyg at dafodiaith Cwm Tawe mewn rhai ardaloedd

PostioPostiwyd: Gwe 30 Medi 2005 12:04 pm
gan garetshyn
crwtyn a ddywedodd:Ry'n ni i gyd yn gwybod bod ystyron geiriau yn amrywio ar lafar gwlad o fro i fro. Felly i'r rhai ohonoch chi o'r De-orllewin beth yw 'symach' yn olygu i chi?


'symach' i fi yw "sylw", yn yr ystyr "paid cymryd symach o'r boi".
Gair odd yn cael ei ddefnyddio'n amal i rybuddio plant i beido a chymryd sylw o ddynion dierth/peidio a syllu ar bobol odd yn edrych yn wahanol.

PostioPostiwyd: Llun 03 Hyd 2005 2:15 pm
gan Bleddyn Bilsen
crwtyn a ddywedodd:
Lowri a ddywedodd:Wedi sylwi bod llawer ohonoch chi'n trafod tafodiaith Dyffryn Aman yn yr edefyn hwn hefyd! Penygroes yw'r ffin rhwng Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman!!


Cytuno yn ddaearyddol ond oes na lawer o wa'nieth rhwng iaith lafar y ddwy ardal?

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng iaith lafar y ddwy ardal yw fod llai o Gymraeg i'w glywed yn yr Aman. Gwaetha'r modd. :crio:

PostioPostiwyd: Maw 04 Hyd 2005 8:16 am
gan Lowri
Ma hwnna'n wir- y mwyaf gorllewinol at ffiniau Cwm Gwendraeth y'ch chi'n mynd- y fwyaf o Gymraeg i chi'n ei glywed