Tudalen 6 o 7

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Gwe 08 Ebr 2011 11:09 pm
gan adamjones416
Falle bo hwn yn hen ond am hen ddwli am y llai o Gwmrag chi'n clywed yn Nyffryn Aman a chi'n clywed yr agosa chi'n mynd sha Cwm Gwendreth? Ma Glaman a Braman yn lot mwy Cymreigaidd na gwedwch Pont-iets, Mynydd y Garreg, Cross Hands, Trimsaran. Bythdi'r un nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghwmaman a Brynaman a sydd ym Mhontyberem. Lot o Sisneg i'w glywed yn Nhumble, Cross Hands a Thrimsaran.

Y wahaniaeth mwya yn y tafodieithoedd yw'r ffaith bod yr hen 'whenwyseg h/y tafodiaeth Morgannwg dal yn bodoli mewn elfennau o Gymraeg Dyffryn Aman tra bod Cwm Gwendraeth yn fwy 'Tafodiaith Shir Gar safonol'.

E.e Tafodiaith Dyffryn Aman
'Smoi'n gweu'tho ti 'to 'chan, wi weti catw efad o fale i ti reit ond smoi'n gylled diall bo ti'm ishe'u catw nhw acha bainc rhac ofan cewn ni law a bydd nhw'n oifad bobman'

Tafodiaith Cwm Gwendraeth

Sai'n gweud'tho ti 'to 'chan, rwy wedi cadw coeled o afale i ti reit ond sai'n gallu diall bo ti'm ishe'u cadw nhw ar ford rhag ofan cewn ni law a bydde nhw'n nofio bobman'.

Mae'r caledu dal yn bodoli yn Nyffryn Aman a'r traddodiad i ddweud 'ws e.e Rhedws e lawr yr hewl i ercyd powled o daffish ond cwmpws e a nafi'i go's. (rhedodd e lawr yr heol i mofyn bowlen o losin ond cwympodd e a brifo'i goes.

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 11:34 am
gan crwtyn
Braf iawn gweld bod yr edau yma wedi’i hatgofodi ar ôl blynyddoedd maith! Ymddiheuriadau am y dryswch rhwng Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman. Agorais i’r edau drwy ofyn am air Cwm Gwendraeth ‘shibec’ ac es i ymlaen i sôn am gasgliad maith o eiriau Dyffryn Aman ges i o ryw rifolyn sbel nôl. ‘Fallai dylwn i newid y teitl i Eiriau De-Ddwyrain Sir Gâr!”.

Tra bod yr edau nôl ar ei thraed, beth am gynnig cwpl o eiriau diddorol:

Uchelfar – gair Dyffryn Aman am ‘uchwelwydd’

Y nall – wedi clywed un o Lanaman yn arfer hwn ar gyfer “y llall”.


Cwestiwn bach i drigolion y dyffryn: rwy’n deall bod ‘ffarne’ yn golygu ‘pigyrnau’. Dw i wedi’i weld e mewn print ac mae Geiriadur y Brifysgol yn sôn ei fod e ar lafar yn Nyffryn Aman. Ydy hyn dal yn wir ac os felly, ydy ‘ffarne’ yn cyfeirio at ddim ond anifeiliaid???

Hefyd, beth mae ‘clawdd’ yn feddwl i chi??? Yn amaethyddol, mae’n cael ei ddefnyddio dim ond yn y gogledd a rhannau o Sir Benfro. Ond dw i’n credu bod y gair ar lafar yn ne-ddwyrain Sir Gâr yn yr ystyr ‘terfyn pwrpasol’, fel ‘clawdd gardd’ ar gyfer y wal ar waelod gardd.

Diolch.


P.s. beth yw'r gair 'efad' yn llinell ganlynol gan adamjones?:

Smoi'n gweu'tho ti 'to 'chan, wi weti catw efad o fale i ti reit ond smoi'n gylled diall bo ti'm ishe'u catw nhw acha bainc rhac ofan cewn ni law a bydd nhw'n oifad bobman'

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 1:34 pm
gan ceribethlem
crwtyn a ddywedodd:P.s. beth yw'r gair 'efad' yn llinell ganlynol gan adamjones?:

Smoi'n gweu'tho ti 'to 'chan, wi weti catw efad o fale i ti reit ond smoi'n gylled diall bo ti'm ishe'u catw nhw acha bainc rhac ofan cewn ni law a bydd nhw'n oifad bobman'


adamjones416 a ddywedodd: E.e Tafodiaith Dyffryn Aman
'Smoi'n gweu'tho ti 'to 'chan, wi weti catw efad o fale i ti reit ond smoi'n gylled diall bo ti'm ishe'u catw nhw acha bainc rhac ofan cewn ni law a bydd nhw'n oifad bobman'

Tafodiaith Cwm Gwendraeth

Sai'n gweud'tho ti 'to 'chan, rwy wedi cadw coeled o afale i ti reit ond sai'n gallu diall bo ti'm ishe'u cadw nhw ar ford rhag ofan cewn ni law a bydde nhw'n nofio bobman'.

Yn y "cyfieithiad" Cwm Gwendraeth mae'n dweud coeled. Ystyr coeled yw lot fawr.

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 2:02 pm
gan Kez
Mae coel yn air am lap, felly coelaid/coeled fyddai lapful neu lot fawr fel mae Ceri'n ddweud.

Mae garffed ne arffed yn air arall yn y De am lap a llond arffed neu arffedaid yn golygu lapful. Efallai bo 'efad' yn ffurf arall ar arffed neu arffedaid.

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 5:05 pm
gan ceribethlem
Kez a ddywedodd:Mae coel yn air am lap, felly coelaid/coeled fyddai lapful neu lot fawr fel mae Ceri'n ddweud.

Diddorol fod coeled yn cael ei yngangu fel coeled, tra bod coel yn cael ei ynganu fel côl.

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 5:36 pm
gan Kez
ceribethlem a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Mae coel yn air am lap, felly coelaid/coeled fyddai lapful neu lot fawr fel mae Ceri'n ddweud.

Diddorol fod coeled yn cael ei yngangu fel coeled, tra bod coel yn cael ei ynganu fel côl.


Dim really - mae coesau yn cael eu hynganu fel coesau, tra bod coes yn cael ei hynganu fel cos - ma'n itha comon :lol: - (yn rhannau o'r De cyn bo rhyw bedant yn dod hibo i'm herio!!)

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 6:18 pm
gan ceribethlem
Kez a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Kez a ddywedodd:Mae coel yn air am lap, felly coelaid/coeled fyddai lapful neu lot fawr fel mae Ceri'n ddweud.

Diddorol fod coeled yn cael ei yngangu fel coeled, tra bod coel yn cael ei ynganu fel côl.


Dim really - mae coesau yn cael eu hynganu fel coesau, tra bod coes yn cael ei hynganu fel cos - ma'n itha comon :lol: - (yn rhannau o'r De cyn bo rhyw bedant yn dod hibo i'm herio!!)

Ai, heb feddwl amdano fe felna.

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 6:43 pm
gan crwtyn
Diolch yn fawr Kez a Ceri. Felly, ydy coeled yn eithaf cyffredin yn yr ardal yn yr ystyr 'nifer go lew'?

Unrhyw feddyliau am ffarne neu clawdd fel wal gardd???

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 6:49 pm
gan adamjones416
Ie Efad yw'r term byddwn i'n defnyddio i ddweud bod nifer fawr o ..... coeled

Dwi heb ddod ar draws efad mewn unrhyw ardal arall ond Dyffryn Aman a Chwmtawe i fod yn onest, bydden i hefyd yn gweud coeled i fod yn deg.

Re: Geiriau Cwm Gwendraeth

PostioPostiwyd: Llun 11 Ebr 2011 6:56 pm
gan adamjones416
crwtyn a ddywedodd:Braf iawn gweld bod yr edau yma wedi’i hatgofodi ar ôl blynyddoedd maith! Ymddiheuriadau am y dryswch rhwng Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman. Agorais i’r edau drwy ofyn am air Cwm Gwendraeth ‘shibec’ ac es i ymlaen i sôn am gasgliad maith o eiriau Dyffryn Aman ges i o ryw rifolyn sbel nôl. ‘Fallai dylwn i newid y teitl i Eiriau De-Ddwyrain Sir Gâr!”.

Tra bod yr edau nôl ar ei thraed, beth am gynnig cwpl o eiriau diddorol:

Uchelfar – gair Dyffryn Aman am ‘uchwelwydd’

Y nall – wedi clywed un o Lanaman yn arfer hwn ar gyfer “y llall”.


Cwestiwn bach i drigolion y dyffryn: rwy’n deall bod ‘ffarne’ yn golygu ‘pigyrnau’. Dw i wedi’i weld e mewn print ac mae Geiriadur y Brifysgol yn sôn ei fod e ar lafar yn Nyffryn Aman. Ydy hyn dal yn wir ac os felly, ydy ‘ffarne’ yn cyfeirio at ddim ond anifeiliaid???

Hefyd, beth mae ‘clawdd’ yn feddwl i chi??? Yn amaethyddol, mae’n cael ei ddefnyddio dim ond yn y gogledd a rhannau o Sir Benfro. Ond dw i’n credu bod y gair ar lafar yn ne-ddwyrain Sir Gâr yn yr ystyr ‘terfyn pwrpasol’, fel ‘clawdd gardd’ ar gyfer y wal ar waelod gardd.

Diolch.


P.s. beth yw'r gair 'efad' yn llinell ganlynol gan adamjones?:

Smoi'n gweu'tho ti 'to 'chan, wi weti catw efad o fale i ti reit ond smoi'n gylled diall bo ti'm ishe'u catw nhw acha bainc rhac ofan cewn ni law a bydd nhw'n oifad bobman'


Braf iawn yw cael trafod tafodiaith yn helaeth dwi wrth fy modd ar wahanol dafodieithoedd ac o'r farn eu bod nhw'n cyfoethogi'n hiaith ni. Ie 'Uchelfar' dwi wedi clywed pobl o ardal Llandeilo/Llangadog a'r cyffinie yn defnyddio'r gair hwnnw hefyd yn hytrach na uchelwydd. Bydden i hefyd yn gweud y nall e.e Cer i ercyd dy 'sgidie 'di, Smai'n gwpod le ma nhw? Draw mynna 'shgwl ar bwys y nall. Ffarne hefyd yn air cyfarwydd iawn siwr o fod yn dod o ber, megis o ber fy esgyrn a pher (treiglad llaes wedyn falle dyma sut mae'r arferiad wedi dod?) Bydden i'n defnyddio ffarne am bobol hefyd dim jyst anifeiliaid. Colfen yw coeden i fi, a 'perth' yw clawdd yn yr ystyr wyt ti'n cyfeirio ato am wn i, byddwn i'n defnyddio clawdd hefyd i weud 'perth' ond perth taclus yw clawdd a chlawdd gwyllt afreolus yw perth? (sori os oes dryswch)