Tudalen 1 o 2

Reu

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 11:47 am
gan Al
Dwi wedi clywad y gair yma oblaen yn dre(Caernarfon), beth yn union man olygu, bratiaith am 'cwl' o ni yn meddwl oedd o, ond mae na rhywun wedi deud mai rhywbeth da chi yn smocio ydio..

Gall rhywun sydd yn gwybod esbonio?

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 11:57 am
gan Tegwared ap Seion
dwi mond 'di glwad o'n cal i ddefnyddio ar y maes, ag o be onin fedru ddehongli ma wbath i'w ysmygu ydyw.

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 1:05 pm
gan cyfrinair
Slang am cannabis yw e - c

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 1:35 pm
gan 7ennyn

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 1:40 pm
gan ap concord y bos
NAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAA!!!!!!!!!!!!!! NA NA NA NO NEFYR! Ma gas genai y gair yma'n cael ei ddeud yn ystod trafodaeth! ond fyddain iwsio fo i gymud y piss o bobol :crechwen:

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 1:52 pm
gan gwern
Reu di y stwff ti yn smocio siwr dduw.

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 2:08 pm
gan Tegwared ap Seion
trafodaeth yma 'fyd.

PostioPostiwyd: Sad 24 Medi 2005 9:20 pm
gan alfredo
Haia. Dwi'n newydd i'r maes ac wrth fynd drwy'r negeseuon newydd ddois i ar draws y cwestiwn am REU. Ia gair arall am ger neu ganabis ydi o.Dyna ydi ystyr y gan 'REU' gan NAR 'chdi sy'n gwneud i mi anghofio' di un o'r llinellau. Just meddwl swn i'n cadarnhau.

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2005 3:18 am
gan denzil dexter
Ydi reu yn meddwl 'tan' hefyd? Nath na foi dod fyny atai yn steddfod rwbryd a gofyn ' sgen ti reu i fi boi'? (as in lighter i'w ffag) :)

PostioPostiwyd: Sul 25 Medi 2005 12:31 pm
gan Nei
Na, gofyn iti am spliff oedd e denz.