Tudalen 1 o 16

Geiriau nas defnyddir yn aml...

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:39 pm
gan Jon Bon Jela
Helo, carwn petai pobl yn gallu rhestru yma rhai o eiriau hyfrytaf y Gymraeg sydd ddim yn cael eu defnyddio'n ddigon aml...

Dechreuaf gyda'r rhain...

Ysblennydd
Grwgnach
Cyllellyddiaeth

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:41 pm
gan Tegwared ap Seion
Llosgach

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:42 pm
gan dawncyfarwydd
...Picwarch
Ffrwchnedd
Godidocaf
Cyfaredd
Cyfeddach...

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:43 pm
gan Jon Bon Jela
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Llosgach


Yn anffodus, mae hwn yn digwydd yn fwy 'na mae'n cael ei ddweud...

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:44 pm
gan Tegwared ap Seion
ai, picwach!

be 'di cyllellyddiaeth? astudiaeth o gyllyll?!

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:44 pm
gan Tegwared ap Seion
Jon Bon Jela a ddywedodd:
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Llosgach


Yn anffodus, mae hwn yn digwydd yn fwy 'na mae'n cael ei ddweud...


argian! :ofn: be ti'n wbod?! :winc:

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:45 pm
gan Jon Bon Jela
Cyllellyddiaeth yw'r gair swyddogol Cymraeg am 'cutlery'

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:46 pm
gan dawncyfarwydd
Tegwared ap Seion a ddywedodd:ai, picwach!
Well gen i o hefo'r r i mewn, yn berthnasol. Mae o'n swnio'n ffyrnicach wedyn.


Ffyrnig

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:46 pm
gan Al
Llunyddiaeth, dwnim os ydion air ffuriol chwaith

PostioPostiwyd: Sul 23 Hyd 2005 8:46 pm
gan Tegwared ap Seion
dow. tŵls fydda i'n ddeud! Neu jysd cyllyll a ffyrc.