Huw Psych a ddywedodd:Be di'r gair am diaohrrea??
Fysa rywun yn deud pibo?
Pibo ydy'r weithred, y bib ydy'r enw (dyma mae rhai pobl yn galw'r Gorfforaeth Darlledu Brydeinig hefyd - oes gysylltiad?). Teimlo'n bibreol ydy'r teimlad ych a fi yna yn y perfedd sy'n gwneud i chi ofni taro rhech, rhag beuddu'ch trons.
Y dolur rhydd, neu'r darymred yw geiriau eraill am yr un cyflwr.