Geiriau nas defnyddir yn aml...

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Arthur Picton » Gwe 10 Maw 2006 9:09 pm

Glywes i dros y penwythnos rhywyn yn Llanuwchllyn yn deud mopio. Taflu peli eira oedd o'n feddwl.

Rioed di clywed hwnne o'r blaen!!
Rhithffurf defnyddiwr
Arthur Picton
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 69
Ymunwyd: Maw 08 Maw 2005 12:57 pm
Lleoliad: Dolgellau/Caerdydd

Postiogan Huw Psych » Llun 13 Maw 2006 11:45 am

Rhewin = downfall

Dwi erioed wedi clwad neb yn defnyddio hwn o'r blaen, dim hyd y oed Nain!!
Oes na rywun yn ei ddefnyddio fo??
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Senghennydd » Gwe 17 Maw 2006 3:24 pm

Edefyn gwych JBJ!

Dylyfu gen, cylchdro a ffawd heglu yn dri gair am bethau cyffredin nas clywir ar dafod leferydd.

gloddesta
ymddiarchenu
ffrewyll
rhyferthwy

Swnio fel noson dda i fi :D
Rhithffurf defnyddiwr
Senghennydd
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Gwe 25 Tach 2005 9:57 am

Postiogan bartiddu » Gwe 17 Maw 2006 5:32 pm

Sgen ti ddim llefeleth
Hynny yw, sgen ti ddim syniad

Odi'r ymadrodd hwn yn cael eu ddefnyddio tu allan i Geredigion? Rhaid cyfaddef mae'n un newydd i mi, ond wedi clywed e sawl tro yn ddiweddar.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan bartiddu » Sul 02 Ebr 2006 12:36 pm

llodrau - trousers! Mae'n un newydd i mi, wedi bod digod bodlon defnyddio trowser ers blynyddoedd.

Wrth edrych ar un o'r rhocesi ar Maniffesto heddi daeth gair newyd sbon i'm feddwl, garddwrndlws sef breichled, be' chi'n feddwl? Rhowch e yn eich geiriadur fel dywedir Clement Freud! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Chwadan » Sul 02 Ebr 2006 1:30 pm

bartiddu a ddywedodd:llodrau - trousers! Mae'n un newydd i mi, wedi bod digod bodlon defnyddio trowser ers blynyddoedd.

Dwi'n defnyddio llodra i gyfeirio at waelodion fy nhrwsus :? Ai dim ond fi sy'n gneud hyn? Be di'r gair iawn am waelod trwsus? :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 02 Ebr 2006 2:17 pm

Dyna pryd fydda inna'n defnyddio llodra' hefyd - i gyfeirio at waelodion fy nhrwsus.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Iestyn ap » Sul 02 Ebr 2006 3:40 pm

Chwadan a ddywedodd:
bartiddu a ddywedodd:llodrau - trousers! Mae'n un newydd i mi, wedi bod digod bodlon defnyddio trowser ers blynyddoedd.

Dwi'n defnyddio llodra i gyfeirio at waelodion fy nhrwsus :? Ai dim ond fi sy'n gneud hyn? Be di'r gair iawn am waelod trwsus? :wps:


Ma llodrau yn tarddu o'r gair lledrau, sydd yn eu hun yn tarddu o'r gair lledr. Mae yna bosibilrwydd fod lledr wedi fod yn ddefnydd a'i ddefnyddir yn heliaethgar i gynhyrchu'r dilledyn hwn yn y gorffennol. Mae'n hen air sydd yn rhannu'r un llinach gyda'r gair "ledrhossen" Tiwtonaidd, ledr=lledr a hossen=hosan. 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Iestyn ap
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Maw 20 Rhag 2005 7:56 pm
Lleoliad: Llangadog

Postiogan Iestyn ap » Sul 02 Ebr 2006 3:43 pm

Ffreckles yn saesneg, brychni yn ledeiriol yng nghymraeg cyfoesol, ond "blodau'r af" yw fy ffefryn.
Rhithffurf defnyddiwr
Iestyn ap
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 135
Ymunwyd: Maw 20 Rhag 2005 7:56 pm
Lleoliad: Llangadog

Postiogan bartiddu » Sul 02 Ebr 2006 4:23 pm

Mae'n hen air sydd yn rhannu'r un llinach gyda'r gair "ledrhossen" Tiwtonaidd, ledr=lledr a hossen=hosan.


Yfach difyr iawn! :syniad:
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 17 gwestai