Tudalen 16 o 16

PostioPostiwyd: Maw 08 Ion 2008 9:20 am
gan sian
bartiddu a ddywedodd:Ystwyll - Epiphany - a Christian festival, observed on January 6, commemorating the manifestation of Christ to the gentiles in the persons of the Magi; Twelfth-day


Erioed 'di clywed y gair o'r blaen cyn heddi.
Mae e'n digwydd yng Nghalendr yr Eglwys Anglicanaidd dw i'n meddwl.
Hefyd dw i'n credu mai "Nos Ystwyll" yw teitl y cyfieithiad Cymraeg o "Twelfth Night", Shakespeare.

PostioPostiwyd: Sad 12 Ion 2008 7:54 am
gan Kez
Didorath (didoreth)

Dyna air da na chlywid di ryw lawer; gair hen bobol yw e erbyn hyn. Roedd pobol yn y cymoedd yn ei weid e yn y Saesneg hyd yn oed. Mae'n golygu rhywbeth fel di-glem neu ddi-drefn mewn brawddegau fel - she doesn't know her arse from her elbow she don't - she's didorath Mrs Evans next door.

A gwed y gwir, wi'n credu ei fod e'n fwy cyffredin yn y Saesneg nag yw hi yn y Gymraeg - yn y cymoedd ta p'un i. Wn i'm os yw pobol eraill yn ei weid e y tu fas i Sir Forgannwg

PostioPostiwyd: Iau 17 Ion 2008 12:20 am
gan Duw
Fflaren [C*** = gair o Frynaman/Cwmllynfell dwi'n meddwl]

Er fy hoff un yw Cala [roedd fy nhad yn fy ngalw i hyn yn aml]

Re: Geiriau nas defnyddir yn aml...

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 8:05 pm
gan Fflur
Oes na rywyn yn dweud fod rhywbeth yn 'codi cnich' arnyn nhw? Ffordd arall o ddweud fod rhywbeth yn codi blys arnynt ydi o. wel dyna y cefais fy nysgu beth bynnag.

Re: Geiriau nas defnyddir yn aml...

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 9:12 pm
gan bartiddu
Shilfoch / Shilfwch - ceg

"Diawl dim ond llond shilfwch ges i!" / " Be' sy' yn dy shilfwch di?" 8)

Re: Geiriau nas defnyddir yn aml...

PostioPostiwyd: Mer 24 Meh 2009 11:33 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Coc-chops.

Re: Geiriau nas defnyddir yn aml...

PostioPostiwyd: Iau 25 Meh 2009 3:01 pm
gan Mihangel Macintosh
pirion, pirion