Tudalen 1 o 2

'Pe byddai'r Wyddfa yn gaws'

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 12:34 pm
gan jac-y-do jones
Dyma enw un o benodau 'Saith Pechod Marwol', Mihangel Morgan - o's rhywun yn gwbod beth yw ystyr y dywediad? Yw e'n golygu'r un peth a moch yn hedfan?

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 12:35 pm
gan dawncyfarwydd
Ydi.

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 12:56 pm
gan jac-y-do jones
Diolch!

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 5:03 pm
gan Mabon.Llyr
Dwin ond wedi clywed 'Pan fydd yw wyddfa'n gaws' sydd, i fi bethbynnag, bach yn fwy gobeithiol. :D

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 5:05 pm
gan Macsen
Ydi stori yna yw un o'r pethau gwaethaf i MM ei gynhyrchu.

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 10:48 pm
gan Wierdo
Ydi'r frawddeg uchod yn gwneud synnwyr? Gofyn ta deud wti? :? :? (sori, nit picking, ond...sori)

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 10:55 pm
gan Macsen
Wierdo a ddywedodd:Ydi'r frawddeg uchod yn gwneud synnwyr? Gofyn ta deud wti? :? :? (sori, nit picking, ond...sori)


Hyn ddod gyn Wierdo fthagn...

PostioPostiwyd: Sad 10 Rhag 2005 10:59 pm
gan Wierdo
mi wn fod fy nheipio...a'n nhreiglo...a f'iaith yn gyffredinnol yn warthus a deud y lleia, a dwin ymddihero am hyn!

fthagn?

PostioPostiwyd: Sul 11 Rhag 2005 12:07 pm
gan gronw
MaBoN HiNcKs a ddywedodd:Dwin ond wedi clywed 'Pan fydd yw wyddfa'n gaws' sydd, i fi bethbynnag, bach yn fwy gobeithiol. :D

:D

dwi ddim yn cofio'r stori yna ond dwi'n cofio darllen y llyfr, a nes i rili mwynhau! enwau'r penodau yn dda hefyd, mae "Pe bai'r Wyddfa i gyd yn gaws" yn enw gwych i stori am lythineb (iych, glythineb yn air crap).

PostioPostiwyd: Sul 11 Rhag 2005 7:15 pm
gan Mr Gasyth
Y dywediad dwi wedi glywed ydi 'petasai'r wyddfa'n gaws mi fuasai'n haws mynd drosti' sydd yn bollocks os da chi'n gofyn i fi.