Tudalen 1 o 4

Geiriau dodji 'Cymraeg'

PostioPostiwyd: Gwe 30 Rhag 2005 6:40 pm
gan Twpsan
Oedd na ryw raglen radio ymlaen gen i yn y cefndir a ddaru ryw ddynes ddeud "y cemeg rhwng y bobl" am allu rywun i berthnasu hefo pobl - dwi`n gwybod 'di`n Nghymraeg i`m yn sbot on, ond ma cyfieithu`n llythrennol o`r Saesneg yn wall gramadegol tydy - nes i neud o`n Cymraeg AS (nes i fyth ddalld y rheolau treiglo ond dwi`n cofio hwn!) Ma' hynna`n rong yn tydy!?! "cemeg" ?!?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Rhag 2005 6:48 pm
gan Macsen
Idiom saesneg.

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 12:49 am
gan ffrwyth melys!
yn union fel mae... 'rhoi fynny', 'gneud fy mhen i fewn', ac hyd yn oed 'chwara o gwmpas'.... :x :x :crio: :!:

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 9:48 am
gan Twpsan
iei - dwi`m ar ben fy hun felly! :P

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 10:51 am
gan Hogyn o Rachub
Ych, cytuno. Ond mae'n digwydd ffor' arall rownd hefyd. Fydda i bob amser yn cyfieithu 'mae X yn cofio atat' fel 'X remembers his/herself to you' a 'llawn dop' fel 'full top'!

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 10:53 am
gan Dewi Bins
Un gair dodgy ydi "chwyrligwgan" sef cymraeg am "roller coaster"

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 11:41 am
gan SbecsPeledrX
na chwyrligwgan di spinning top ynde?

PostioPostiwyd: Sad 31 Rhag 2005 12:11 pm
gan sian
Yn

PostioPostiwyd: Mer 31 Mai 2006 12:47 am
gan jammyjames60
Dwi yn defnyddio idiomau Cymraeg yn y Saesneg hefyd! Er enghraifft, dwi wastad yn dweud, "It's like a cow's belly tonight!" (yn dirywio o 'du fel bol buwch')

Mae fy ffrindiau saesneg ddim yn gwybod o beth dwi'n siarad!

"It's what James?" maent yn ei ddweud yn ymateb.

PostioPostiwyd: Mer 31 Mai 2006 1:06 am
gan aurCymru
:lol: da wan!
bydd rhaid cofio hona.