Tudalen 2 o 4
Postiwyd:
Mer 31 Mai 2006 8:37 am
gan Iesu Nicky Grist
SbecsPeledrX a ddywedodd:na chwyrligwgan di spinning top ynde?
Twm Dwl 'an!
Postiwyd:
Gwe 14 Gor 2006 12:30 am
gan Llwyd y Mynydd
Y Cymro, Mehefin 23, 2006.
"Mae nhw'n dweud fod pob gwin da yn gwella gydag oedran, ac mae hynny'n sicr yn wir am W^yl Ifan"
Rhywbeth braidd yn lletchwith yn y frawddeg honno...
Postiwyd:
Gwe 14 Gor 2006 4:04 pm
gan Manag Werdd
Geiriau dodji Cymraeg? Ym...'dodji'.
Postiwyd:
Llun 17 Gor 2006 5:15 pm
gan dai mawr
Wedi bod yn gwneud gwaith cyflenwi mewn ysgol y y De lle mae'r plant bob amser yn defnyddio'r ymadrodd hyfyrd
"ti'n dwo 'ed fi mewn"! Iaith y nefoedd wir!
Postiwyd:
Llun 17 Gor 2006 5:20 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Llwyd y Mynydd a ddywedodd:Y Cymro, Mehefin 23, 2006.
"Mae nhw'n dweud fod pob gwin da yn gwella gydag oedran, ac mae hynny'n sicr yn wir am W^yl Ifan"
Rhywbeth braidd yn lletchwith yn y frawddeg honno...
Sdim idiom o unrhyw iaith yn fan'no - ffaith yw'r frawddeg, onid aie?!
Postiwyd:
Llun 17 Gor 2006 6:38 pm
gan sian
Dw i'n meddwl mai awgrymu bod "gwella gydag oedran" yn gyfieithiad llythrennol o "improves with age" ac nad yw'n ymadrodd Cymreig mae Llwyd. Ie?
Postiwyd:
Llun 17 Gor 2006 7:10 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Oooo ia, mae'n debyg. Thenciw.
Rhag i unrhywun sy'n f'adnabod f'amau, er nad sylwes i ar yr olwg gynta (?!), nid fi sy'n gyfrifol am y frawddeg yna
Postiwyd:
Llun 17 Gor 2006 7:11 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Un arall -
"ar ddiwedd y dydd..."
Postiwyd:
Llun 31 Gor 2006 8:37 pm
gan Twpsan
Manag Werdd a ddywedodd:Geiriau dodji Cymraeg? Ym...'dodji'.
Nes i ddefnyddio`r gair yna`n bwrpasol.
Actifyddion Plaid Cymru
Postiwyd:
Gwe 04 Awst 2006 2:33 pm
gan sian
Dw i newydd gael Bwletin Ymgyrchu gan Blaid Cymru sy'n dechrau fel hyn:
"Diolch i holl actifyddion Plaid Cymru o gwmpas y wlad am ddod allan i gefnogi’r arweinydd ar ei daith gerdded."
Actifyddion???!!!