Tudalen 3 o 4

Re: Actifyddion Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Gwe 04 Awst 2006 3:01 pm
gan Iesu Nicky Grist
sian a ddywedodd:Actifyddion


Ych a fi.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Awst 2006 3:02 pm
gan ceribethlem
Mae yna ddau air gwarthus sy'n cael eu defnyddio yn y Gymraeg, un yn y Gogledd, a'r lall yn y De.
Fflio yn lle hedfan yn y Gogledd.
Danjerus yn lle peryglus yn y De.

Ych a pych, y ddau ohonynt.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Awst 2006 3:27 pm
gan Iesu Nicky Grist
ceribethlem a ddywedodd:Danjerus yn lle peryglus yn y De.


Dantsherus 'an! :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 04 Awst 2006 3:34 pm
gan sian
Fi'n eitha hoff o dantsherus 'yn hunan.

PostioPostiwyd: Gwe 04 Awst 2006 3:41 pm
gan Iesu Nicky Grist
sian a ddywedodd:Fi'n eitha hoff o dantsherus 'yn hunan.


Finne 'fyd. Gwed 'thai, be ti'n neud heno? :lol:

PostioPostiwyd: Gwe 04 Awst 2006 4:27 pm
gan sian
Iesu Nicky Grist a ddywedodd: Gwed 'thai, be ti'n neud heno? :lol:


Paco. A weda i un peth tho ti - fi'n ddantsherus pan fi'n paco - gwae neb sy'n dod ar y nhraws i. :drwg:

Y peth 'da "dantsherus" yw - dyna'r unig air sy 'da ni. Alli di ddim disgwl i bobol Pencader ddachre gweud "peryglus" - swn i ddim yn meddwl bod e wedi bod yn eu geirfa nhw erioed. Fi'n siwr bod golwg ddantsherus ar Hen Wr Pencader pan dorrodd e ar draws Harri'r Ail Frenin Lloegr yn 1163.

O ddifri - sgwn i beth oedd pobl y gorllewin yn gweud cyn "benthyg" dantsherus - mae e'n dipyn o lond ceg - ac yn fwy anodd i'w ddweud na "peryglus" felly mae'n siwr bod rheswm da gyda nhw dros newid! Mae dantsherus mor wahanol ei swn i dangerous fel nad yw e'n swnio fel benthyciad bellach.

Re: Actifyddion Plaid Cymru

PostioPostiwyd: Mer 15 Gor 2009 6:40 pm
gan sian
sian a ddywedodd:Dw i newydd gael Bwletin Ymgyrchu gan Blaid Cymru sy'n dechrau fel hyn:

"Diolch i holl actifyddion Plaid Cymru o gwmpas y wlad am ddod allan i gefnogi’r arweinydd ar ei daith gerdded."

Actifyddion???!!! :drwg: :drwg: :drwg:


O'n i'n meddwl bod 'actifyddion' wedi cael ei gladdu'n barchus ond mae Golwg360 wedi bachu ynddo nawr.

Gol: Wel, tawn i'n smecs, yn yr amser ro'n i'n postio hwnna, mae 'na rywun wedi'i newid i "ymgyrchydd" - da iawn Golwg360 :D

Re: Geiriau dodji 'Cymraeg'

PostioPostiwyd: Iau 16 Gor 2009 8:38 am
gan Cardi Bach
Jingl ar Radio cymru yn son am 'Trafeilio'...wel, i fi, ma hwnna jest yn nonsens. Dyw e ddim fel'se fod "y werin" yn gweud fod "teithio" yn air anealladwy, academaidd, nagyn ni'n ei ddefnyddio bob dydd, diolch yn fowr!
fflemin moses.

Re: Geiriau dodji 'Cymraeg'

PostioPostiwyd: Iau 16 Gor 2009 8:44 am
gan Hogyn o Rachub
Ond mae 'trafeilio' yn air poblogaidd sy wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd maith. Ar y sail honno efallai y gellid dadlau bod 'trafeilio' erbyn hyn yn air Cymraeg 'go iawn'?

Re: Geiriau dodji 'Cymraeg'

PostioPostiwyd: Iau 16 Gor 2009 8:57 am
gan sian
Fi'n credu bod "trafeili" yn yr un dosbarth â "dantsherus" - maen nhw wedi magu eu cymeriad eu hunain yn y Gymraeg - dim jest yn air Saesneg wedi'i bloncio mewn brawddeg Gymraeg.
Swn i byth yn gweud "teithio" yn bersonol wrth siarad yn naturiol.
Mae'r Briws yn rhoi "trafaelio" a "trafeilio".
A be ti am neud â'r hen gân werin

"Trafeiliais y byd, ei led a'i hyd,
Pan oeddwn yn ifanc a ffôl.
Bydd glaswellt dros fy llwybrau i gyd
Pan ddelwyf i Gymru 'nôl." ?