Tudalen 4 o 4

Re: Geiriau dodji 'Cymraeg'

PostioPostiwyd: Iau 16 Gor 2009 10:21 am
gan Cardi Bach
ie, ie, ok, fi'n derbyn, ac yn eupg yn hunan yn acen y de o weud 'trafili' - ond, jiawch, odd e'n swno'n rhyfedd wrth i'r llais weud "gewch chi yp-dets ar y tywydd a thrafeilio...", ond wy'n cwmpo ar y mai fan hyn, a'n derbyn y pwynt (er, yn grintachlyd).

Re: Geiriau dodji 'Cymraeg'

PostioPostiwyd: Iau 16 Gor 2009 12:34 pm
gan sian
Heb glywed y jingl ond fi'n gweld be sy da ti. Mae "tywydd a theithio" wedi ennill ei blwyf ar Radio Cymru.
Dw i ddim yn rhy hoff o "yp-dets" chwaith. :D

Re: Geiriau dodji 'Cymraeg'

PostioPostiwyd: Iau 16 Gor 2009 1:32 pm
gan Kez
Fi'n itha lico'r gair sielffo sy'n weddol dodji ond sydd wedi ennill ei blwyf. Winna'n siwr bo hwnna'n dod o'r Sysnag. Wedi'r cwbwl, ma lot o eiriau 'sex' yn dod o fyd amaethyddiaeth yn y Gymraeg ac mae sielffo yn swno fel bo fe'n dod o fyd DIY. Odin nhw'n gweud 'to shelf' yn Sysnag - swn i'm yn synnu!