Dyfedeg a'r Wenhwyseg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dished ne dishgled ne dishcled

dished
13
43%
dishgled
14
47%
dishcled
3
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 30

Re: Dyfedeg a'r Wenhwyseg

Postiogan adamjones416 » Llun 06 Meh 2011 10:55 pm

Nawr wy moyn adfer y drafodaeth hwn gan mai crwt o ddyffryn aman otw i a wi'n gweud jyst a bod yr un pethe a chi shia Cwm Tawe neu Gwmtwe ac Abertwe fel bydden i'n gweud. Wi'n cretu bod lot yn anwybyddu ardal Dyffryn Aman amser mafe'n dod i drafod y tafodieithoedd. Dyma ble ma'r ddwy dafodiaith yn cwmyscu wi'n cretu. E.e wrth drafod tafodiaith yn marw ymysg y plant, wi'n 18 a newydd gwpla yn Ysgol Dyffryn Aman, a od yw cymharu tafodiaith y disgyblion e.e.

Plant y Cwm - Glanaman, Garnant, Brynaman, y Waun i gyd yn siarad rhywfaint fowr o'r Wenhwyseg gyda'n oefad, taffish, fale, weti, whilia, reit i wala,
A wedyn ma Plant y Dre - Plant Rhydaman, Saron, Capel Hendre, Llandybie sydd yn siarad iaith sy'n debycach i iaith Sir Gar a dyfed.

Seni'n gweud
'Jiawch ariodi odd beth wetws hi'n iawn de, rhetws e lawr sha'r hewl a chwmpws e ar i garffed nes odd e'n wylo'i gylon e mas, a fynna odd e ynghenol yr hewl fel bod e newydd gal shiwadad itha shwmpus ac odd efad o wad yn rhiteg o'i gos e a wetws y cwac wylle bydd rhaid iddo fe fynd i'r osbital

Plant o Ardal Rhydaman yn gweud (cofiwch mae ond 4 milltir sydd rhwng Glanaman a Rhydaman, dyna pa mor amrywiol yw tafodieithoedd y Gymraeg

'Arglwydd mawr, odd beth wedodd hi'n iawn de, rhedodd e lawr yr hewl a chwmpodd e ar i bigwrn tan odd e'n llefen i galon e mas, a fynna odd e yng nghanol yr hewl fel bod e newydd gal shiglad itha mowr ac odd coeled o waed yn llifo o'i goes e a wedodd y doctor falle bydd rhaid iddo fe fynd i'r 'sbyty.

Braf 'da fi gyhoeddi bod y fath hwnnw o Gwmrag dal yn iach ac yn hyfyw yn ardal Dyffryn Aman i'r dwyrain o dref Rhydaman i hun. Mae na raglen ar S4C ar hyn o bryd sef 'Ar Lafar' a ma nhw 'di neud rhaglen ar dafodiaith Cwm Tawe mafe arno wythnos nesaf wi'n cretu ond smoi'n shwr.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Dyfedeg a'r Wenhwyseg

Postiogan ceribethlem » Mer 08 Meh 2011 8:53 am

adamjones416 a ddywedodd:Nawr wy moyn adfer y drafodaeth hwn gan mai crwt o ddyffryn aman otw i a wi'n gweud jyst a bod yr un pethe a chi shia Cwm Tawe neu Gwmtwe ac Abertwe fel bydden i'n gweud. Wi'n cretu bod lot yn anwybyddu ardal Dyffryn Aman amser mafe'n dod i drafod y tafodieithoedd. Dyma ble ma'r ddwy dafodiaith yn cwmyscu wi'n cretu. E.e wrth drafod tafodiaith yn marw ymysg y plant, wi'n 18 a newydd gwpla yn Ysgol Dyffryn Aman, a od yw cymharu tafodiaith y disgyblion e.e.

Plant y Cwm - Glanaman, Garnant, Brynaman, y Waun i gyd yn siarad rhywfaint fowr o'r Wenhwyseg gyda'n oefad, taffish, fale, weti, whilia, reit i wala,
A wedyn ma Plant y Dre - Plant Rhydaman, Saron, Capel Hendre, Llandybie sydd yn siarad iaith sy'n debycach i iaith Sir Gar a dyfed.

Seni'n gweud
'Jiawch ariodi odd beth wetws hi'n iawn de, rhetws e lawr sha'r hewl a chwmpws e ar i garffed nes odd e'n wylo'i gylon e mas, a fynna odd e ynghenol yr hewl fel bod e newydd gal shiwadad itha shwmpus ac odd efad o wad yn rhiteg o'i gos e a wetws y cwac wylle bydd rhaid iddo fe fynd i'r osbital

Plant o Ardal Rhydaman yn gweud (cofiwch mae ond 4 milltir sydd rhwng Glanaman a Rhydaman, dyna pa mor amrywiol yw tafodieithoedd y Gymraeg

'Arglwydd mawr, odd beth wedodd hi'n iawn de, rhedodd e lawr yr hewl a chwmpodd e ar i bigwrn tan odd e'n llefen i galon e mas, a fynna odd e yng nghanol yr hewl fel bod e newydd gal shiglad itha mowr ac odd coeled o waed yn llifo o'i goes e a wedodd y doctor falle bydd rhaid iddo fe fynd i'r 'sbyty.

Braf 'da fi gyhoeddi bod y fath hwnnw o Gwmrag dal yn iach ac yn hyfyw yn ardal Dyffryn Aman i'r dwyrain o dref Rhydaman i hun. Mae na raglen ar S4C ar hyn o bryd sef 'Ar Lafar' a ma nhw 'di neud rhaglen ar dafodiaith Cwm Tawe mafe arno wythnos nesaf wi'n cretu ond smoi'n shwr.

Un peth am y treiglo, bydde rhan fwyaf o Shir Gar (Dinefwr o leia) yn defnyddio'r treiglad meddal yn hytrach na'r un trwynol.
E.e. "Fynna odd e yn ganol 'rewl".
neu "Bues i yn Gyfyrddin nithwr", "Ma'n whar yn byw yn Gyrdydd nawr"
ac yn y blaen.
Yr unig le bydde'r treiglad trwynol yn swno'n naturiol, yw i ddweud "yng Nghymru", ond sdim lot o alw i 'weud hynny ar lafar!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai