Nawr wy moyn adfer y drafodaeth hwn gan mai crwt o ddyffryn aman otw i a wi'n gweud jyst a bod yr un pethe a chi shia Cwm Tawe neu Gwmtwe ac Abertwe fel bydden i'n gweud. Wi'n cretu bod lot yn anwybyddu ardal Dyffryn Aman amser mafe'n dod i drafod y tafodieithoedd. Dyma ble ma'r ddwy dafodiaith yn cwmyscu wi'n cretu. E.e wrth drafod tafodiaith yn marw ymysg y plant, wi'n 18 a newydd gwpla yn Ysgol Dyffryn Aman, a od yw cymharu tafodiaith y disgyblion e.e.
Plant y Cwm - Glanaman, Garnant, Brynaman, y Waun i gyd yn siarad rhywfaint fowr o'r Wenhwyseg gyda'n oefad, taffish, fale, weti, whilia, reit i wala,
A wedyn ma Plant y Dre - Plant Rhydaman, Saron, Capel Hendre, Llandybie sydd yn siarad iaith sy'n debycach i iaith Sir Gar a dyfed.
Seni'n gweud
'Jiawch ariodi odd beth wetws hi'n iawn de, rhetws e lawr sha'r hewl a chwmpws e ar i garffed nes odd e'n wylo'i gylon e mas, a fynna odd e ynghenol yr hewl fel bod e newydd gal shiwadad itha shwmpus ac odd efad o wad yn rhiteg o'i gos e a wetws y cwac wylle bydd rhaid iddo fe fynd i'r osbital
Plant o Ardal Rhydaman yn gweud (cofiwch mae ond 4 milltir sydd rhwng Glanaman a Rhydaman, dyna pa mor amrywiol yw tafodieithoedd y Gymraeg
'Arglwydd mawr, odd beth wedodd hi'n iawn de, rhedodd e lawr yr hewl a chwmpodd e ar i bigwrn tan odd e'n llefen i galon e mas, a fynna odd e yng nghanol yr hewl fel bod e newydd gal shiglad itha mowr ac odd coeled o waed yn llifo o'i goes e a wedodd y doctor falle bydd rhaid iddo fe fynd i'r 'sbyty.
Braf 'da fi gyhoeddi bod y fath hwnnw o Gwmrag dal yn iach ac yn hyfyw yn ardal Dyffryn Aman i'r dwyrain o dref Rhydaman i hun. Mae na raglen ar S4C ar hyn o bryd sef 'Ar Lafar' a ma nhw 'di neud rhaglen ar dafodiaith Cwm Tawe mafe arno wythnos nesaf wi'n cretu ond smoi'n shwr.