Dyfedeg a'r Wenhwyseg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dished ne dishgled ne dishcled

dished
13
43%
dishgled
14
47%
dishcled
3
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 30

Postiogan ceri matho » Mer 15 Chw 2006 5:43 pm

Iesu Nicky Grist a ddywedodd:[ Ond ma lot o'r ystyron y de orllewin bach yn shit/anghywir i fi - e.e.

Rhofio: palu

Wel fi'n anghytuno'n chwyrn. Palu yw palu. Rhofio yw rhofio. Dau action gwahanol. FFACINEL! Typical BBC - ffacin townies!

Ond anyway...cymrwch ofal wrth ddarllen nhw.


cytuno cantycant ond gan bwyll parthed a blagardo'r townies shit ma, 'yn ni gyd yn gwpod ta pobol dwad i'r trefu fel cachu bwms o gwmpas twll tin ffaro sy'n gyfrifol am y cyfryngaeg ma (nes i neud efo just ayyb) sy'n disodlu'r hen iaith :winc:

derots yn canu yn y brigots 8) 8) 8)
Rhithffurf defnyddiwr
ceri matho
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 158
Ymunwyd: Maw 14 Medi 2004 5:54 pm
Lleoliad: pencader

Postiogan dafydd » Gwe 17 Chw 2006 7:17 pm

ceri matho a ddywedodd:derots yn canu yn y brigots 8) 8) 8)

Diolch.. wherthodd Dad pan wedes i 'na wrtho fe!

Gofiodd e ymadrodd arall o'i blentyndod - "Cer nes 'wnt" a lot o eirie ffarmo hefyd, pethau fel glowty (beudy), cartws (storio cert/cerbydau?), lleithdy, beili (y man tu fas i'r drws.. ddim yn siwr os hwn yn rhan o'r buarth).

Rhyw atgof bach arall ar hap .. Eic Davies yn atrodd cerdd o'r enw "Fe bwtos" :)daflog | ♥ curiad
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 18 Chw 2006 1:23 am

Gwen a ddywedodd:Os nad ydi cwestiwn Ceri Matho yn berthnasol i chi, yna peidiwch ag ateb. Mae na edefyn yn bodoli yn barod ar gyfer y sawl sy'n awyddus i rannu'r ffaith eu bod nhw'n yfed panad/paned efo'r genedl.


Mae'n ddrwg genni ond dyw'r sylw yma ddim yn ffitio i mewn i edefyn y paned na'r dishgled :wps:

Un o'r pethau difyr am y dadl dishgled / paned yw mae'n bosib bod y ddwy air yn cyfeirio at ddau lestr gwahanol.

Roedd nain Dolgellau yn gofyn i ymwelwyr i'w tŷ os oeddynt yn moen paned neu ddesgl o de.

Y paned oedd yr hyn mae'r Sais yn galw'n "tea cup" tra bod y desgl yn beth mwy o faint, yr hyn mae'r Sais yn galw'n "breakfast cup".

Yr hyn hoffwn wybod, os oes aelod o'r Maes sy'n arbenigo mewn creiriau, yw a oedd gwahaniaeth rhwng si
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan ceri matho » Llun 20 Chw 2006 9:17 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Un o'r pethau difyr am y dadl dishgled / paned yw mae'n bosib bod y ddwy air yn cyfeirio at ddau lestr gwahanol.

Y paned oedd yr hyn mae'r Sais yn galw'n "tea cup" tra bod y desgl yn beth mwy o faint, yr hyn mae'r Sais yn galw'n "breakfast cup".

Yr hyn hoffwn wybod, os oes aelod o'r Maes sy'n arbenigo mewn creiriau, yw a oedd gwahaniaeth rhwng si
Rhithffurf defnyddiwr
ceri matho
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 158
Ymunwyd: Maw 14 Medi 2004 5:54 pm
Lleoliad: pencader

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 02 Maw 2006 5:56 am

ceri matho a ddywedodd:
na, wi ddim yn cretu, wath o'n nacu yn hifed ei de o'r saser, wedi'i yrllws, mas o'i ddishcled (bone china, tea cup), ar ben ei fara menyn.

tra ishte ar y ffwrwm gyda llaw 8)


Ych a fi! Ond un genedl ydym er gwaethaf gwahaniaethau tafodieithol. Roedd Taid yn arfer gwneud yr un peth mochaidd efo'i de a'i fara - nid bod "bone china" ar gyfyl ei dŷ. Dyn bins oedd taid ac felly ail-gylchu gwasarn eraill oedd pob llestr a phob dodrefnyn yn ei dŷ - gan gynnwys ffwrwm eistedd arbennig iawn!

Pan ddaeth Ei Mawrhydi ar ymweliad arbennig i Ddolgellau (tua 1962?) rhoddwyd toiled newydd sbon yn un o dai'r byddygions (y Llwyn 'rwy'n credu) - doedd dim modd i'r cwin, pe bai angen naturiol yn dod trosti, eistedd ar orsedd y bu un arall eistedd arni o'i blaen. Y dwthwn wedyn roedd rhaid cael gwared
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan y mab afradlon » Iau 02 Maw 2006 12:08 pm

Mae'r Ffwrwm Ishta ym Machen, rhyw 3 milltir i'r dwyrain o Gaerffili. (Rhen Sir Fynwy felly)
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan y mab afradlon » Iau 02 Maw 2006 12:10 pm

Gyda llaw, gan neidio nol ychydig, Syfis yn ni'n gweud am ... ymm... syfis. Mae pentre bach yng Ngogledd Cwm Rhymni o'r enw CwmSyfiog, oherwydd bod gymaint o'r pethau ar y mynydd!
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Postiogan ceri matho » Iau 02 Maw 2006 5:44 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd: Roedd Taid yn arfer gwneud yr un peth mochaidd efo'i de a'i fara - nid bod "bone china" ar gyfyl ei d?. Dyn bins oedd taid


ashman (a colier) odd 'yn nacu 'ed 8) ond bone china serch hynny - abertawe ty'n gweld, swansea ware - porcelain ayyb

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ta waeth. Ffwrwm! Soffa, am wn i ydy'r peth cyfoes agosaf. Lle i eistedd mwy nag un, er mwyn cynnal trafodaeth, megis y Forum Lladinaidd / Saesneg. Rwyf bron yn sicr imi weld t? tafarn o'r enw'r Ffwrwm Ishte, rhywle ar fy nhaith trwy'r henwalad, ond yn methu yn fy myw cofi ym mhle!


na wi ddim yn cretu - plancyn o bren yw ffwrwm - lle dda i ladd mochyn, a wi'n cretu bod e'n dod or sysneg - form - yn uniongyrchol ta pun ny. wedi hifed sawl peint yn y ffwrwm ishta amser maith yn ol amser o'nni'n byw yn y rhydri.
Rhithffurf defnyddiwr
ceri matho
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 158
Ymunwyd: Maw 14 Medi 2004 5:54 pm
Lleoliad: pencader

Postiogan Glanyrafon » Llun 13 Maw 2006 2:58 pm

am edefyn diddorol. . .

Rwy'n newydd ddyfodiad i Gwmtawe (Ynyswen sy'n agos iawn i Abercraf). A hefyd rwy'n "ail-ddyfodiad" (i gam-ddefnyddio gair) i'r Gymraeg. O'n i'n siarad Cymraeg pan o'n i'n ifanc iawn yn ardal Penclawdd ond collais i lawer a dim wedi dod yn ol ati hi nes o'n i'n oedolyn. Felly mae pobol lleol yn mynnu nag ydw i'n siarad "iaith Cwmtawe"

Ta beth. Mae ddiddorol nodi nawr mod i'n defnyddio mwy o eiriau "lleol" (boed yn Wenhwyseg neu'n Ddyfedeg!) na'm mab 5 mlwydd oed i. Mae ei iaith e'n eithaf "safonol". Mae'n dweud "fi eisha diod" neu "ma' rhaid i fi tacluso fy stafell" lle bydda i (ie fi, hyd yn oed) yn dweud "wy'n mo'yn peth i ifed" neu "mae eisha i ti gymwyni".

Dyw fy ngwraig i ddim yn siarad y Gymraeg o gwbl felly dim ond tri dylanwad sy dros ei Gymraeg e

- iaith ei gyfoedion yn yr ysgol (yn Saesneg mae'n siarad a phlant y pentref)
- fy iaith i
- iaith ei athrawon, "iaith ysgol" (mae'n mynd i'r ysgol Gymraeg yn Ystradgynlais)

Byddwn i'n erfyn y byddai'r dynlanwad yn disgyn fel bod chi'm mynd lawr y rhestr. Mae digon o blant o deuleuoedd Cymraeg yn ei ddosbarth e ond mae'n dal i ddod ma's gyda phethau nag yw fy Mam-yng-nghyfraith (sy'n dod o Ystalyfera yn wreiddiol ond sy wedi byw yng Nghastell Nedd ers blynyddoedd) yn cydnabod fel geiriau priodol "South Wales Welsh" o gwbl.

Fy nghasgliad i yw bod y tafodiaeth lleol ym mhen uchaf Cwmtawe wedi stopio bod yn gynhyrchiol a Chymraeg "ysgol Gymraeg ail-iaith" gawn ni o hyn ymlaen, yn union fel Cymraeg plant Ysgolion Cymraeg o Abertawe neu Gaerdydd neu ble bynnag. Sy'n beth trist ofnadwy. Dim o achos unrhyw ffaeleddu yn iaith y rhai sy wedi bod yn yr Ysgolion Cymraeg ond o achos diflaniad iaith naturiol yr ardal hon. :crio:
Glanyrafon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Sad 04 Maw 2006 9:08 pm
Lleoliad: Cwmtawe Uchaf

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Llun 13 Maw 2006 5:43 pm

Iesgyn dafydd ma llwyth o ni o'r Gwmtawe ar ma dyddie hon. :D

Fi'n daeall be ti'n gweud, a cyntuno yn llwyr, fydden'i'n dweud gymwys y rhun peth a ti ar gyfer 'moyn rhwpeth i yfed' yn lle 'eisiau diod'. Os fyddaun gweud hwna yn fy ty i bydd rhieni fi'n edrych arnai fel does dwy ben 'da fi! Dwi'n teimlo dyw hwn lawr i'r ffaith gam bo fi dim di cal addysg drwy'r gymraeg (siarad yn ty a da fy ffrindiau) - es i Ysgol Caehopcyn (yr unig Gymro yn y lle on am y prif-athrawes) a wetyn Maesydderwen. Nes i TGAU Mamiaith wrth gwrs, ond ar adeg na oedd e'n rhi hwyr i ddysgu y iaith cywir yn fy mharn i, er bo fi wastod trial gwella safon fy iaith.
Roedd athrawes fi o Ceredigion felly roedd lot fwy o 'wes, wes' na Gymraeg Gwmtawe! Ma'r bennaeth yr adran Gymraeg yn'r ysgol yn trial dysgu'r iaith lleol - fi'n cofio ddi'n gweud bod y tafodiaith ni un o'r rhai hennach yn y wlad, ond sain cofio yn iawn beth oedd hi'n meddwl trwy hwnna.

Dwi'n gwbod ma rhai aelodau o'r maes yn anghytuno da catw tafodieithau yn fyw drwy ddysgu nhw yn ysgolion, ond mae'n siom ofnadwy os di ni'n golli gwahanieithau rhwngddo'r Iaith yn ardaloedd wahanol.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron