Hambon yn un arall ar gyfer josg, bydde ti ddim yn clywed rhywun o Loegr yn diffinio rhywun fel "hambone".Llwyd y Mynydd a ddywedodd:Rw i wedi clywed rhai o'r Gogledd yn arfer y gair 'josgyn' sef gwladwr gor-wledig, rhywbeth fel 'hick' a 'hillbilly' yr Americanwyr, neu 'bumpkin' y Saeson. Dw i erioed wedi clywed neb yn dweud y gair yma yn Saesneg, ond yn Chamber's English Dictionary dywedir 'joskin - a clown, a yokel', gair o iaith lladron (thieves' cant.)
Un o hoff dermau fi, oedd yn cael ei ddefnyddio yn Ne-Orllewin Cymru pan oeddwn i yn ysgol yw "Daps", am trainers.