Tudalen 1 o 17

Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 7:03 pm
gan dawncyfarwydd
Mae hwn wedi'i ysbrydoli i ryw raddau gan yr edefyn 'Geiriau Cymraeg y mae'r di-Gymraeg yn eu defnyddio'.

Fe sylwais i yn ddiweddar nad ydi Saeson yn defnyddio 'champion' yn yr un ffordd ag rydan ni. Mae 'top notch' yn un arall.

Geiriau josg ydi'r rhain - ydyn nhw wedi'u mabwysiadu i fedru swnio'n soffistigedig ar ddiwrnod mart efallai?

Oes 'na fwy o enghreifftiau?

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 8:04 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Erm sain siwr os di hwn yn cyfri yn iawn, ond be am galifanto?

Sai'n glywed di-gymraeg yn defynddio 'galivanting' yn aml iawn, swno'n bach yn 1920aidd yn saesneg, ond ma'r cymry 'nardal i wastod yn mewn sgwrsie Gymraeg. e.e.
'Ble ti di bod heddi de, bach?'
- 'Lawr i Abert'we am peth siopa'
'Jiw jiw, galifanto eto, myn jiawl i'

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 8:51 pm
gan nicdafis
Dw i'n ei ddefynddio yn Saesneg, ond un o'r 1920au ydw i.

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 9:24 pm
gan Chwadan
"Scout", e.e. es i am sgowt i dre. Dwi di ddefnyddio fo yn Saesneg, "I went for a scout" a dio'm yn gweithio :wps:

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 9:44 pm
gan Hogyn o Rachub
Dwnim beth ydi'r gwraidd ond mae 'moider' yn un sy'n cael ei ddefnyddio'n y gogledd lot gan y Cymry Cymraeg. Dw i'm yn gwybod os ydi hwn yn wir am y di-Gymraeg?

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 9:55 pm
gan Macsen
'Chief'. Ti'n iawn, chief? ayyb. Yr unig amser dw i'n gweld saeson yn defnyddio 'chief' ydi mewn adroddiadau cyngor.

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 11:45 pm
gan sian
Mae 'na lot o'r rhain ond dwi'n ffaelu cofio:

Bwyd ffein - ddim yr un peth

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 12:04 am
gan Y Fampir Hip Hop
Falle ma hwn ddim yn cyfri ond beth am 'bwy' ne 'bei' - gair ma lot fowr o bechgyn y de yn defynddio yn aml.
Fydde ti'n glywed 'Shwdi bwy?' gan unrhyw gymro y de ond dim 'How are you, boy?' gan y Saeson.

Fi'n gwbod bydd y di-gymraeg hefyd yn ddweud 'Hows it goyin, bwy?', ond y ffordd Gymraeg ma nhwn defynddio.
Yn y saesneg mae'n swno fel sa chi'n siarad lawr i rhywun.

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 12:15 am
gan dawncyfarwydd
Ia, ti'n iawn - mae 'boyo' yn cael ei ddefnyddio fel enw israddol ar Gymry, ydi?

PostioPostiwyd: Maw 23 Mai 2006 6:27 pm
gan Lals
dim ots - no odds