Cymedrolwr: Gwen
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Un feddyliais i amdano y diwrnod o'r blaen oedd 'mopped' am 'mopio', e.e. "he's completely mopped with her" - wn i ddim be ydi tarddiad hwn ond byddai'n ddiddorol os oes rhywun yn gwybod!
Geraint a ddywedodd:Twrna.
Mae'n diddorol sut mae Cymry dal yn defynddio twrna, sef attorney. Mae'n siwr oedd y term yn gyffredin yn Lloegr yn y 16/17/18fed ganrif, ac fod y term wedi symud i America ac dal yn cael ei ddefnyddio. Tra fod Lawyer neu Solictor nawr yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ar y cyfan, mae y cymry wedi aros efo'r hen derm.
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
I'm just going to pick into town
sian a ddywedodd:Newydd ffeindio bod "jadan" - gair yn y gogledd am groten/fenyw annymunol - ast - yn dod o "jade" sy'n golygu adulteress, neu flirtatious girl. Mae wedi colli'r elfen rywiol yn y Gymraeg. Chlywes i erioed 'mo "jade" yn cael ei ddefnyddio fel hyn yn Saesneg.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 38 gwestai