gan Llwyd y Mynydd » Gwe 06 Hyd 2006 6:53 pm
Clywais i "so long" yn gyffredinol yn y Tymbl a Cross Hands yn y 70au. Ond 'slong' oedd gyda nhw.
Roedd Geiriadur y Brifysgol wedi cyrraedd Rhan XXV (Gwahaniaethad-Gweisgionllyd) yr adeg hynny, ac yr oeddwn yn meddwl pan ddeuai troad y ganrif, adeg byddai'r Geiriadur wedi cyrraedd y llythyren S, y gwelwn i darddiad diddorol tu hwnt i'r gair, a'i gytrasau yn y Gernyweg, y Llydaweg, y Wyddeleg, ag o bosibl enghraifft o ryw arysgrifiad o Gâl. Efallai rhywbeth tebyg i "Slán" y Gwyddelod oedd y gair hwnnw. Ond sylweddolais i flwyddyn neu ddwy ar ol ei glywed gyda nhw taw "so long" y Sais oedd mewn gwirionedd.