Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan y mab afradlon » Mer 17 Rhag 2008 7:38 pm

Seonaidh

O'n i'n meddwl taw o'r Aeleg odd 'Slong' yn dod - Slann agat (sillafiad?) am hwyl fawr.

Ydy pobl dal yn gweud 'scersli bilif'?

Mae pobl ffor hyn dal yn gweud 'byti' am gyfaill neu bartner - fersiwn y Gwenwys o 'Buddy' y fyddin (gyda'r 'd' yn caledu'n 't' dan ddylanwad yr acen)
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 17 Rhag 2008 10:27 pm

Slàinte agad? Ddim yn swnio fel "so long" neu "s'long" i finnau. Ond, wedi deud hynny, mae'r Americanwyr yn deud pethau dieithr sy'n dod, o bosib, o'r Aeleg, fel "shoot!" (siuthad). Efallai fod "Crikey" yn dod o'r Aeleg hefyd, yn lle bod yn llygriad o "Christ" fel maen nhw'n meddwl, sef "Mo chreach!". Eniwe, dan ni ddim yn iwsio words Saesneg yn ein Welsh ni on'dyn?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan osian » Mer 17 Rhag 2008 10:49 pm

Newydd feddwl, ydi Nefi Blw yn cael ei ddeud yn Susnag fel ebychiad?
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan Mr Gasyth » Iau 18 Rhag 2008 11:43 am

'Glasshouse' am 'greenhouse'.

Dwi'n cymryd mai cyfieithiad uniongyrcholo'r Gymraeg ydi hwn sydd ddim yn cael ei ddefnyddio gan Saeson.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan sian » Iau 18 Rhag 2008 12:12 pm

O ie, a ry'n ni'n dweud "smwddo" a "stîlo" sy'n fenthyciadau o'r Saesneg ond dydi'r Saeson ddim yn dweud "smoothing" na "steeling" (am resymau amlwg efallai).

Ma "jacôs"/"jocôs"/"jicôs" yn un arall - wedi'i fenthyg o "jocose" sy'n golygu "given to jest; habitually jolly; playful; characterized by joking" - ond mae'r Gymraeg yn golygu "diofal, hamddenol, bodlon, digynnwrf, happy-go-lucky".

A "jyjo"/"jijo" sy'n golygu "manwl-lygadu" (GPC) yn y de yn ogystal â "beirniadu"

A "janglo" sy'n golygu "cloncan" yn y gogledd - ac yn Saesneg y gogledd hefyd dwi'n meddwl ond nid mewn Saesneg arferol.

A "nobl" - dydi "dynes nobl" ddim run peth â "noble woman" o gwbl!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan Pogo » Gwe 19 Rhag 2008 11:56 pm

osian a ddywedodd:Newydd feddwl, ydi Nefi Blw yn cael ei ddeud yn Susnag fel ebychiad?


Na di.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan LGL » Maw 23 Rhag 2008 4:41 pm

Mae'n siwr bod "sbia" yn dod o'r gair "spy"
Di Saeson ddim yn defnyddio'r gair yna ddim mwy nac ydyn?
"sbia ana hwna"
"spy that"
LGL
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sad 09 Ebr 2005 8:45 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan sian » Maw 30 Rhag 2008 9:06 pm

Mae "ffit" a "powld" yn golygu "ewn"/"cheeky" - nid "fit" na "bold"

"Mae honna'n rîal ffiten" / "Mae honna'n rêl powldan"

Dwi'n meddwl bod rhywun wedi sôn yn barod am "tshampion" - fyset ti ddim yn gweud "How are you today?" "Champion, thank you" fyset ti?

Ac mae ystyr "sbeshal" yn wahanol i "arbennig" a "special"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 31 Rhag 2008 8:13 am

sian a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod rhywun wedi sôn yn barod am "tshampion" - fyset ti ddim yn gweud "How are you today?" "Champion, thank you" fyset ti?


Fedra i ddim bod 100% ond mae gen i ffrind o dde Lloegr a glywodd fi'n dweud "Champion" iddo am rywbeth a ddywedodd o bod pobl gogledd Lloegr hefyd yn dweud champion (aparyntli mae'r Cymry a gogleddwyr Lloegr yn debyg oherwydd hyn ac oherwydd ein bod yn licio grefi ar ein sglods)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

Postiogan Seonaidh/Sioni » Mer 31 Rhag 2008 9:13 pm

Wye aye man - champion! Mae "champion" yn eitha cyffredin o gwmpas Castellnewydd (ar Dein). Ond d'wn i'm am y grefi ar sglods - ar ol datganiad Pedr ap Mandel (yr Arglwydd Mandelson rwan) mewn emporiwm sgod a sglod yn Hartlepool unwaith pan oedd o'n credu fod y myshi pisyns yn wacamole, mae pawb yn Ng-DDn Lloegr yn mynni cael gwacamole ar eu sglods...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron