Tudalen 14 o 17

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Maw 14 Ebr 2009 3:15 pm
gan finch*
Ifan Saer a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
I'm just going to pick into town


Aye, dwi'n euog o hynna ar adegau. Un arall (falla fod o wedi cael ei drafod eisoes, dim amser i ddarllen yr holl edefyn mae arnai ofn) sydd wedi dianc o'n ngwefus o bryd i'w gilydd yw:

he's making fun on your head

sydd yn gallu cael ymateb reit od a deud y lleia'.

Hefyd, wrth siarad efo ffrind oedd wedi ypsetio am rywbeth hollol ddibwys:

don't swallow a donkey now, lift your heart

aeth hynna ddim i lawr yn dda iawn chwaith. O leia' mod i wedi dewis donkey yn hytrach nag ass, ynde.


Mewn bwyty neu siop chips weithie,

"Can i have some red sauce plis?"

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 8:49 am
gan Orcloth
Do, dwi di deud hynna hefyd - mewn pyb yn Abercych - "Can I have some red sauce, please?" o, cywilydd!

Rhywbeth arall ddudais unwaith "remember me to her" - cofia fi ati.

Newydd feddwl am un arall - fyddan ni rownd ffordd hyn yn dweud "Ewadd, twyt ti'n deud petha mawr amdani/o?". Fyswn i'm yn meddwl bod y Sais yn dweud "Are'nt you saying big things about him/her?"

Petha fel hyn sydd i gael am feddwl yn Gymraeg tra'n trio siarad Saesneg! :lol:

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 9:06 am
gan Hogyn o Rachub
Red sauce y bydda i bob amser yn dweud am sos coch yn Saesneg!

Dwi wedi clywed fy hun yn dweud dy ddwy enghraifft di sawl gwaith hefyd Orcloth, yn enwedig remember me to...!

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 11:10 am
gan Orcloth
Ia, dwi'n gwybod, "remember me to..." ond sut fysat ti'n deud yr un peth yn Saesneg, dyna di'r cwestiwn!

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 11:40 am
gan Hogyn o Rachub
'X sends their regards' mae'n siwr, sy'n swnio'n lot rhy stuffy!

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 2:07 pm
gan Orcloth
Yndi, mae o'n swnio'n rhy "stuffy" - be am "Tell him/her I said hello"? neu ella "Give him/her my best wishes"?

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 8:05 pm
gan Seonaidh/Sioni
Wel, dw i ddim yn credu fod "remember me to X" yn beth eithriadol yn y Saesneg. Neu fel maen nhw'n deud yma yn y Deyrnas, "mind me to X".

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 10:47 am
gan dawncyfarwydd
Well, if you're travelin' in the north country fair,
Where the winds hit heavy on the borderline,
Remember me to one who lives there.
She once was a true love of mine.

Well, if you go when the snowflakes storm,
When the rivers freeze and summer ends,
Please see if she's wearing a coat so warm,
To keep her from the howlin' winds.

Please see for me if her hair hangs long,
If it rolls and flows all down her breast.
Please see for me if her hair hangs long,
That's the way I remember her best.

I'm a-wonderin' if she remembers me at all.
Many times I've often prayed
In the darkness of my night,
In the brightness of my day.

So if you're travelin' in the north country fair,
Where the winds hit heavy on the borderline,
Remember me to one who lives there.
She once was a true love of mine.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:32 am
gan sian
Peidwch â neud i fi lefen cyn cino :crio:

Beth bynnag, nôl at bwrpas gwreiddiol yr edefyn.

Sylweddoles i un diwrnod nad o'n i'n gallu meddwl am air Cymraeg gwreiddiol oedd yn dechrau ag "r" - benthyciadau o'r Saesneg ydyn nhw i gyd.
Ond fe gafodd ffrind i un o fy meibion freinwef - neu dyna oedd e'n feddwl - 'rwdan' medde fe. :syniad:

Ond - o edrych yn GPC - benthyciad o'r Saesneg "rootings" yw "rwdins" (lluosog) ac o'r lluosog mae "rwdan" wedi dod. Difyr! :D

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 11:52 am
gan Orcloth
Ia, chydal a'r Sais, all well and good mewn hen gerdd fel'na, ond fysa'm yn swnio'n iawn mewn sgwrs bob-dydd, dwi'm yn meddwl... unrhyw syniadau eraill?