Tudalen 15 o 17

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 12:11 pm
gan tafod_bach
'Ffaro' - sai rioed di clywed sais yn dweud 'Up yours, Pharaoh'

run peth am 'Arab' (Ceredigion, ystyr: cymeriad y gelli ymddiried ynddo, boi da etc): 'He's a good guy, a real Arab'.

a 'ponsho' (clwyd) - nid y dilledyn, ond gair am chware o gwmpas/gneud mess, sy'n dod o 'poncing' am wn i.
Di dweud 'Paid a ponsho wan' wrth blentyn ddim cweit run peth a 'Stop poncing around now'...

re: 'moider'/'moidering' - dyna beth sy'n digwydd ar Columbo, siwrli?

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 1:03 pm
gan sian
"potshan" a "panso" (neud eich gorau ar ryw dasg) hefyd.

a "ffwrwm" - mainc - naill ai mewn gweithdy saer etc - neu sêt ar ochor rhewl - o'r Saesneg Canol "furme"

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 1:36 pm
gan Hogyn o Rachub
tafod_bach a ddywedodd:run peth am 'Arab' (Ceredigion, ystyr: cymeriad y gelli ymddiried ynddo, boi da etc): 'He's a good guy, a real Arab'.


Dyna ryfedd - byddwn i'n cysylltu ystyr y gair 'Arab' (sef gair ti'n galw rhywun - nid yr hil!) gyda rhywbeth fel 'rapsgaliwn' neu 'diawl bach' - y math o air byddet ti'n ei ddefnyddio i ddisgrifio plentyn drwg. Ond heb glywed yr un ystyr mewn Saesneg, chwaith.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 5:00 pm
gan Cardi Bach
wy'm yn gwbod os yw rhywun wedi son am hwn ishws, ond yn y de ni'n gweud 'Becso' am poeni "paid a becso 'chan, fydd popeth yn iawn' sydd yn dod o'r Sisneg 'Vex', am wn i.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 5:27 pm
gan dawncyfarwydd
Orcloth a ddywedodd:Ia, chydal a'r Sais, all well and good mewn hen gerdd fel'na, ond fysa'm yn swnio'n iawn mewn sgwrs bob-dydd, dwi'm yn meddwl... unrhyw syniadau eraill?

Hen gerdd? Hen gerdd? Hen? Gerdd? Ti'n sôn am Ei Fobrwydd yn fama!

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 5:55 pm
gan Azariah
Hogyn o Rachub a ddywedodd:
tafod_bach a ddywedodd:run peth am 'Arab' (Ceredigion, ystyr: cymeriad y gelli ymddiried ynddo, boi da etc): 'He's a good guy, a real Arab'.


Dyna ryfedd - byddwn i'n cysylltu ystyr y gair 'Arab' (sef gair ti'n galw rhywun - nid yr hil!) gyda rhywbeth fel 'rapsgaliwn' neu 'diawl bach' - y math o air byddet ti'n ei ddefnyddio i ddisgrifio plentyn drwg. Ond heb glywed yr un ystyr mewn Saesneg, chwaith.


Rwy'n cofio hen berthynas di-Gymraeg yn dweud wrtha i pan o'n i'n fach "you little Arab"
Hanes yr ymerodraeth Prydeinig sydd tu ol iddo siwr o fod. Dw i ddim cant y cant yn sicr ond 'fallai bod Jew yn gallu cymryd lle Arab hefyd.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Iau 14 Mai 2009 6:05 pm
gan dawncyfarwydd
Mae Marwnad Siôn y Glyn yn gorffen efo

ac yn iach fy nghâr arab
iso'n fy myw, Siôn fy mab.

lle mae 'arab' yn ffafriol. Hefyd yn y gerdd honno mae 'gwirion' yn beth da - 'och nad Siôn, fab gwirion gwâr / sy'n ail oes i Sain Lasar'.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 8:12 am
gan Orcloth
Orcloth a ddywedodd:Sori os dwi'n bod yn thic, de, ond pwy di "Ei Fobrwydd", plis?


Bob Dylan - ddarllenes i rywle'n ddiweddar (colofn Lyn Ebeneser yn y Cymro efallai) mai Twm Morys a Mei Mac oedd wedi dechrau ei alw'n Ei Fobrwydd. Mae'n cael ei alw'n "His Bobness" yn Saesneg hefyd.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 9:28 am
gan sian
dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae Marwnad Siôn y Glyn yn gorffen efo

ac yn iach fy nghâr arab
iso'n fy myw, Siôn fy mab.

lle mae 'arab' yn ffafriol. Hefyd yn y gerdd honno mae 'gwirion' yn beth da - 'och nad Siôn, fab gwirion gwâr / sy'n ail oes i Sain Lasar'.


Mae "arab" fel hyn yn gallu golygu llawen, llon; cellweirus, ysmala; neu hyfryd, mwyn, tirion,

Ffor' hyn dwi'n meddwl bod "yr arab" yn gallu golygu rhywun sy'n dipyn o dderyn - braidd yn ddigwilydd -

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 12:37 pm
gan Ray Diota
tafod_bach a ddywedodd:run peth am 'Arab' (Ceredigion, ystyr: cymeriad y gelli ymddiried ynddo, boi da etc): 'He's a good guy, a real Arab'.



dwi eriod di clywed hynna...?