Tudalen 16 o 17

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 2:24 pm
gan Orcloth
dawncyfarwydd a ddywedodd:Well, if you're travelin' in the north country fair,
Where the winds hit heavy on the borderline,
Remember me to one who lives there.
She once was a true love of mine.

Well, if you go when the snowflakes storm,
When the rivers freeze and summer ends,
Please see if she's wearing a coat so warm,
To keep her from the howlin' winds.

Please see for me if her hair hangs long,
If it rolls and flows all down her breast.
Please see for me if her hair hangs long,
That's the way I remember her best.

I'm a-wonderin' if she remembers me at all.
Many times I've often prayed
In the darkness of my night,
In the brightness of my day.

So if you're travelin' in the north country fair,
Where the winds hit heavy on the borderline,
Remember me to one who lives there.
She once was a true love of mine.


Dwi di mynd yn drist i gyd rwan, ar ol darllen y geiriau'n iawn........ :( Mae Bob Dylan yn fardd heb ei ail, mae'n rhaid dweud! Diolch am roid y geiriau i mewn, DC!

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 3:06 pm
gan tafod_bach

Rwy'n cofio hen berthynas di-Gymraeg yn dweud wrtha i pan o'n i'n fach "you little Arab"
Hanes yr ymerodraeth Prydeinig sydd tu ol iddo siwr o fod. Dw i ddim cant y cant yn sicr ond 'fallai bod Jew yn gallu cymryd lle Arab hefyd.


dwi di clywed pobol yng Ngheredigion yn defnyddio 'Jiwo' (rhag eu cywilydd) i olygu 'bartering'/rhywun yn gneud i ti dalu mwy am wrthrych na mae o werth go iawn. yr unig le arall dwi di clywed hyne odd mewn rhyw gomedi ddilornus am hics o Minnesota (e.e. "If you two don't Jew me too much on the dining table, i'll throw in the chairs for free..."). Un i'w anghofio, falle?

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Sul 17 Mai 2009 9:06 am
gan sian
"porcyn /porcen" yn dod o "pork" - "O'dd e'n borcyn" - "He was a pork" :D - Ai achos bod e'n edrych fel mochyn wedi'i ladd a'i hongian?

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 3:56 pm
gan Awen92
mulin', am minging, sa i wedi cywed hwn erioid yn Lloegr,

fair play am fair enough or 'fairy nuff', mae saeson yn dweud hwn hefyd ond dim gymaint a'r Cymry,

boy ar ddiwedd pob brawddeg, ond mae'n cael ei ddefnyddo'n lot llai na'r Saeson yn meddwl, dwi'n credu!

Mae pobl di-Gymraeg yn defnyddio cwtch a bach dwi di sylweddoli hefyd.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 4:10 pm
gan sian
Oes rhywun wedi sôn yma am sboner a wejen - geiriau'r de orllewin (- y de i gyd falle?) am boyfriend a girlfriend.
Sboner yn dod o "spooner" - achos bod bechgyn yn neud llwyau caru ar gyfer eu cariadon - a "wejen" yn dod o "wench".
Difyr!

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 7:44 pm
gan Josgin
Beth ydi tarddiad ' Cadi ffan' ? Yn Arfon, rhywun merchetaidd ydi cadi ffan, ond mi glywais i foi o Ddolgellau'n dweud mai ' Ladies' man ' oedd yr ystyr iddo fo.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 8:06 pm
gan sian
Josgin a ddywedodd:Beth ydi tarddiad ' Cadi ffan' ? Yn Arfon, rhywun merchetaidd ydi cadi ffan, ond mi glywais i foi o Ddolgellau'n dweud mai ' Ladies' man ' oedd yr ystyr iddo fo.


"unmanly or effeminate man or boy" yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 8:09 pm
gan Josgin
Ia , ond beth ydi'r tarddiad ? Ydi o'n lygriad o air Saesneg, neu 'n gynhenid Gymraeg ?

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Mer 10 Meh 2009 8:12 pm
gan sian
Sori - mae'n dweud bod "Cadi" yn dod o "Catrin" ond dyw e ddim yn sôn am y "Ffan"

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 10:47 am
gan Hogyn o Rachub
Dwi ddim yn siwr a fyddai Saeson yn dweud hyn, ond byddwn i'n dweud "She's expecting" i feddwl "mae'n hi'n disgwyl". Wn i fyddech chi'n dweud "she's expecting a baby" yn Saesneg (dwi'n cymryd!) ond heb y "a baby"?