Tudalen 17 o 17

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 11:12 am
gan dawncyfarwydd
Be di tarddiad 'jibidêrs', of 'racs jibidêrs' fame?

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 11:55 am
gan sian
dawncyfarwydd a ddywedodd:Be di tarddiad 'jibidêrs', of 'racs jibidêrs' fame?


Mae'n cynnwys "jibbets" - carpiau, yfflon, crybibion, teilchion - a "tears" - darnau wedi torri/rhwygo. (GPC)

Un arall, "clem" - "sdim clem 'da fi" yn dod o "clem" neu "clam" yn Saesneg sy'n golygu "feis" ac felly wedi mynd i olygu "gafael, amgyffred, crap, syniad".

A mae "jest â clemio" ishe bwyd yn dod o'r un lle "to pinch; starve with hunger".

Dw i ddim yn meddwl bod Saeson yn dweud "I haven't got a clem" nac "I'm clemming with hunger". Na?

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 3:06 pm
gan telsa
sian a ddywedodd:Dw i ddim yn meddwl bod Saeson yn dweud "I haven't got a clem" nac "I'm clemming with hunger". Na?


O waw, mae'n amser hir ers i fi glywed hynny. Ydyn, maen nhw'n dweud "clemmed" ("clempt?" "clemt"?) i olygu "very hungry", "starving" - yn y gogledd, o leia. Ceir "fair clemmed" hefyd. Un o Lancashire oedd yn nhad-cu, a byddai fe'n arfer dweud "I'm clemming" pan oedd eisiau bwyd arno.

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 3:45 pm
gan sian
telsa a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Dw i ddim yn meddwl bod Saeson yn dweud "I haven't got a clem" nac "I'm clemming with hunger". Na?


O waw, mae'n amser hir ers i fi glywed hynny. Ydyn, maen nhw'n dweud "clemmed" ("clempt?" "clemt"?) i olygu "very hungry", "starving" - yn y gogledd, o leia. Ceir "fair clemmed" hefyd. Un o Lancashire oedd yn nhad-cu, a byddai fe'n arfer dweud "I'm clemming" pan oedd eisiau bwyd arno.


Ti'n iawn. Yn ôl wiktionary:

Clem =
A testicle; To be hungry
:D

Re: Geiriau Saesneg y mae'r Cymry ond NID y Saeson yn eu defyddi

PostioPostiwyd: Maw 30 Meh 2009 5:08 pm
gan osian
sian a ddywedodd:Ti'n iawn. Yn ôl wiktionary:

Clem =
A testicle; To be hungry
:D

Diar mi, mae 'na sôn yn Un Nos Ola Leuad am gael "hoelan yn fy nghlem" a "ma nghlem i'n rhydd". Gwadna' sgidia neu rwbath dwi'n meddwl ma nhw'n feddwl yn fanna