Tudalen 1 o 1

Chwilio am air/term/ymadrodd yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Maw 14 Tach 2006 1:52 pm
gan Barbarella
Os ych chi'n ceisio trosi rhyw air neu ymadrodd o'r Saesneg i'r Gymraeg, mae na nifer o wefannau allai fod o gymorth i chi. Mae'n bosib nad oes rhaid i chi bostio neges ar y Maes yn gofyn am gyfieithiad -- rhowch gynnig ar chwilio yn y rhestrau termau a geiriaduron isod:

TermCymru
Cronfa derminoleg sy'n cael ei chynnal gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad
http://www.termcymru.cymru.gov.uk/index.asp

E-Gymraeg
Cronfa Genedlaethol o Dermau, yn cynnwys termiaduron arbenigol ar gyfer Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddu Addysg, Adnoddau Dynol, Mân-werthu, Arwyddion Siopau, Bwydlenni, Cyllid, Deddfwriaeth Priffyrdd.
http://www.e-gymraeg.co.uk/bwrdd-yr-iaith/termau/

Geiriadur BBC Cymru
Geiriadur Cymraeg > Saesneg, a Saesneg > Cymraeg
http://www.bbc.co.uk/cgi-bin/wales/lear ... tionary.pl

Geiriadur Prifysgol Llambed
Geiriadur Cymraeg > Saesneg, a Saesneg > Cymraeg
http://www.geiriadur.net/?prefLang=cy

Welsh-Termau-Cymraeg
Rhestr ebost yn trafod termau -- gallwch chwilio'r archifau ar y we.
http://www.jiscmail.ac.uk/lists/welsh-t ... mraeg.html

Canolfan Edward Llwyd
Termau gwyddoniaeth yn Gymraeg, yn cynnwys arolygu ecolegol a chymunedau planhigion, ecoleg, cynaladwyedd amgylcheddol, ffyngau, pynciau llosg.
http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/termau.htm

Asiantaeth Gwaith a Phensiynau
Geirfa'n ymwneud â gwaith a budd-daliadau
http://www.dwp.gov.uk/cymraeg/glossary.asp

Y Termiadur - Termau wedi'u safoni
Lluniwyd gan Delyth Prys, J P M Jones, Owain Davies, Gruffudd Prys, gyda chefnogaeth dechnegol Dewi Bryn Jones ac Ambrose Choy. Mae hwn yn un o brojectau Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, i ACCAC (bellach Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru).
http://geiriadur.bangor.ac.uk/termiadur/index.aspx

Dwi'n gludo hwn i frig y seiat fel bod modd dod o hyd iddo'n hawdd -- os oes gennych chi gynigion ar bethau eraill dylid eu cynnwys, gyrrwch neges breifat!

PostioPostiwyd: Maw 13 Maw 2007 5:03 pm
gan SerenSiwenna
Wow hwn yn edrych yn ddefnyddiol iawn. Da iawn Barbarella am ei rannu xx

PostioPostiwyd: Maw 10 Gor 2007 10:20 am
gan sian
Newydd ffeindio hwngan D?'r Cwmniau

Re: Chwilio am air/term/ymadrodd yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Maw 29 Maw 2011 10:35 pm
gan maesyfed
Onid oes geiriadur idiomau neu 'slang' ar y we? - Gyda llaw, beth yw'r gair am 'slang' yng Nghymraeg?

Re: Chwilio am air/term/ymadrodd yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 30 Maw 2011 9:45 am
gan ceribethlem
maesyfed a ddywedodd:Onid oes geiriadur idiomau neu 'slang' ar y we? - Gyda llaw, beth yw'r gair am 'slang' yng Nghymraeg?

Bratiaith?

Re: Chwilio am air/term/ymadrodd yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Mer 30 Maw 2011 2:43 pm
gan maesyfed
O ie, wrth gwrs. Anghofiais.

Re: Chwilio am air/term/ymadrodd yn Gymraeg?

PostioPostiwyd: Gwe 01 Ebr 2011 5:07 pm
gan Kez
ceribethlem a ddywedodd:
maesyfed a ddywedodd:Onid oes geiriadur idiomau neu 'slang' ar y we? - Gyda llaw, beth yw'r gair am 'slang' yng Nghymraeg?

Bratiaith?


Onid peth arall yw bratiaith - fel Cymraeg o'r teip 'le ti'n dod o? neu 'fi'n really moyn ffag nawr fi yn''

Am fod iaith lenyddol ffurfiol yn y Gymraeg, mae popeth sy'n wahanol i honno yn cal ei hystyried yn 'anffurfiol' ne'n 'dafodieithol'.
A oes shwt beth a 'slang' i gael yn y Gymraeg?

Yn Saesneg slang buasai galw cocaine yn charley a dy ben di yn 'bonce' ond beth sy'n debyg i hwnna yn Gymraeg. Clopa am ben sbo ond wi'm credu bod slang fel ag sydd yn y saesneg yn gyffredin iawn yn gymraeg