Os ych chi'n ceisio trosi rhyw air neu ymadrodd o'r Saesneg i'r Gymraeg, mae na nifer o wefannau allai fod o gymorth i chi. Mae'n bosib nad oes rhaid i chi bostio neges ar y Maes yn gofyn am gyfieithiad -- rhowch gynnig ar chwilio yn y rhestrau termau a geiriaduron isod:
TermCymru
Cronfa derminoleg sy'n cael ei chynnal gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth y Cynulliad
http://www.termcymru.cymru.gov.uk/index.asp
E-Gymraeg
Cronfa Genedlaethol o Dermau, yn cynnwys termiaduron arbenigol ar gyfer Technoleg Gwybodaeth, Gweinyddu Addysg, Adnoddau Dynol, Mân-werthu, Arwyddion Siopau, Bwydlenni, Cyllid, Deddfwriaeth Priffyrdd.
http://www.e-gymraeg.co.uk/bwrdd-yr-iaith/termau/
Geiriadur BBC Cymru
Geiriadur Cymraeg > Saesneg, a Saesneg > Cymraeg
http://www.bbc.co.uk/cgi-bin/wales/lear ... tionary.pl
Geiriadur Prifysgol Llambed
Geiriadur Cymraeg > Saesneg, a Saesneg > Cymraeg
http://www.geiriadur.net/?prefLang=cy
Welsh-Termau-Cymraeg
Rhestr ebost yn trafod termau -- gallwch chwilio'r archifau ar y we.
http://www.jiscmail.ac.uk/lists/welsh-t ... mraeg.html
Canolfan Edward Llwyd
Termau gwyddoniaeth yn Gymraeg, yn cynnwys arolygu ecolegol a chymunedau planhigion, ecoleg, cynaladwyedd amgylcheddol, ffyngau, pynciau llosg.
http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/termau.htm
Asiantaeth Gwaith a Phensiynau
Geirfa'n ymwneud â gwaith a budd-daliadau
http://www.dwp.gov.uk/cymraeg/glossary.asp
Y Termiadur - Termau wedi'u safoni
Lluniwyd gan Delyth Prys, J P M Jones, Owain Davies, Gruffudd Prys, gyda chefnogaeth dechnegol Dewi Bryn Jones ac Ambrose Choy. Mae hwn yn un o brojectau Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, i ACCAC (bellach Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru).
http://geiriadur.bangor.ac.uk/termiadur/index.aspx
Dwi'n gludo hwn i frig y seiat fel bod modd dod o hyd iddo'n hawdd -- os oes gennych chi gynigion ar bethau eraill dylid eu cynnwys, gyrrwch neges breifat!