Tudalen 1 o 1

speech-friendly, DHTML accessibility, rich web applications

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 12:24 pm
gan sian
Allith rhywun helpu plis?

Rwy eisiau termau Cymraeg am y rhain: speech-friendly, speech-enabled, DHTML accessibility, rich web applications

Dyma'r cyd-destun:

Simply Web 2000 is a speech friendly, speech enabled accessible web browser with advance features
that allow easy navigation of complex pages by blind users.

Firefox is the first browser to support DHTML accessibility, which, when enabled by Web authors, allows rich Web applications to be read aloud.

A dyma'r esboniadau a gefais gan y cwsmer - ond dydw i ddim llawer callach wedi'u darllen mae arna i ofn!
a) speech-friendly, speech-enabled: This means it will talk to you or you can use your existing screen reader software to read the site.

b) DHTML accessibility, rich web applications
DHTML is Dynamic HTML, a code standard that enables, among other things, the inclusion of small animations and dynamic menus in Web pages. These are called rich web applications. Firefox allows these to be accessed with screen reader technologies.

Hefyd - ai'r un peth yw "browser" a "web browser"?

Diolch

Re: speech-friendly, DHTML accessibility, rich web applicati

PostioPostiwyd: Iau 01 Maw 2007 7:00 pm
gan Barbarella
Rhywbeth fel hyn? Dim lot o bwynt cyfieithu'r termau'n uniongyrchol...

Mae Simply Web 2000 yn borydd gwe hygyrch gyda galluoedd llefaru a nodweddion arbennig fydd o gymorth i ddefnyddwyr dall wrth lywio tudalennau cymhleth.

Firefox yw'r porydd cyntaf i gynnig hygyrchedd DHTML. Pan fydd awduron gwe yn defnyddio'r nodweddion hyn, mae modd i raglennni gwe cyfoethog gael eu llefaru gan y cyfrifiadur.

Bosib bod "rhyngweithiol" yn air gwell na "chyfoethog" er nad yw'r ystyr cweit yr un peth.

Ie, porydd = porydd gwe yn y cyd-destun yma.

PostioPostiwyd: Gwe 02 Maw 2007 9:28 am
gan sian
Barbs a dafydd (ar W-T-C)

XXXXXX

Chi'n werth y byd!