Termau TG sydd ddim ar y Gronfa Data Gendlaethol

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys » Iau 29 Tach 2007 5:45 pm

HuwJones a ddywedodd:

Mae na lot o feddalwedd cod agored yn aros i rhywun cyfieithu i Gymraeg - rhowch gynnig arni felly!!!! Mae'r Gymraeg yn bell ar ei hol hi gyda TG a meddalwedd.


Dam reit.

Mae dy brofiadau di o gyfieithu LimeWire hefyd felly wedi tafle fyny (sgiwsiwch yr ymadradd Seisneigaidd) ambell derm hefyd, nad yw'r Rhestr Termau (er mor dda ydi o) yn ei gynnwys.

Tydi 'Freeloader' ddim yn derm technolegol cyffredin, ond mae pethau fel

Peer to Peer yn debygol o ymddangs reit aml mewn llinynau* cyfieithu meddalwedd

Mae Host ar y rhestr ond ddim Hosting

Ultrakeeper yn gallu bod yn unigryw i LimeWire (ond falle ddim)

[*Llinynau (strings) yw pytiau bach o eiriau/neu frawddeg rydych yn ei gyfieithu ar y tro - os nad ydych yn gyfarwydd a chyfiethu meddalwedd a gwefannau.]
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwwaters » Iau 29 Tach 2007 8:44 pm

HuwJones a ddywedodd:Un or termiau roedd rhaid imi greu oedd y Gymraeg am "Freeloader" (rhywun sydd yn llwytho ffeiliau pawb arall heb rhoi dim ar y rhwydwaith i bobol eraill)
Wnes i benderfynu ar "Sbynjiwr" yn y diwedd!


Ar feddalwedd torrent, maent yn cyfeirio at y bobol yma fel Leeches, a'r rhai sydd yn rhannu yn Seeds.

Be am eu galw'n Gelen?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan 7ennyn » Iau 29 Tach 2007 10:28 pm

Hmm, dwi'n cael yr argraff mai nid fi ydi'r unig un sydd yn anghyfforddus hefo'r termau Cymraeg am 'downloadio' ac 'uploadio'. Mae rhain yn dermau mor gyffredin y dyddiau hyn - dwi'n meddwl bod angen termau ychydig yn fwy creadigol, dyfeisgar a BEIDDGAR!

Be am 'gollwng' = 'uploadio' a 'codi' = 'downloadio'?

Mae nhw yn troi fewn i enwau yn hawdd, - 'gollyngiad' a 'codiad' ...... :? bolycs!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan HuwJones » Gwe 30 Tach 2007 9:57 am

'gollyngiad' a 'codiad' -

:D :D :D :D
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Termau TG sydd ddim ar y Gronfa Data Gendlaethol

Postiogan løvgreen » Sul 22 Mai 2011 6:43 pm

Dwi'n meddwl ei bod yn saff dweud bod "uwchlwytho" a "lawrlwytho" wedi ennill eu plwyf bellach.
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron