Tudalen 1 o 2

Termau TG sydd ddim ar y Gronfa Data Gendlaethol

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 12:45 pm
gan Rhys
Dwi wedi bod yn gwneud ychydig o gyfieithu ar fersiwn Gymraeg o WordPress

Dwi'n defnyddio ambell iiradur ar-lein, ond mae'r Cronfa Data Genedlaethol i fod i arbennigo mewn termau'n ymwneud รข Thechnoleg Gwybodaeth.

Dwi'n sylwi mod i'n dod ar draws sawl term nad oedd efallai'n bodoli neu hanner mor gyffredin pan gynhyrchwyd y rhestr presenol. Dylwn gysylltu a'r Bwrdd a Chanolfan Bedwyr, a dyna dwi am wneud, ond efallai bod yn syniad rhestru yma rhai o'r termau dwi'n cael trafferth gyda a chroeso i eraill ychwnaegu ato i ni roi rhestr cynhwysfawr. Mae croeso i unrhywun gynnig cyfieithiadau yma hefyd os ydych yn gwybod beth y'r cyfieithiad neu am awgrymmu un.

Ddechreua i gyda

Stylesheet
Feed (dwi'n gwbod bod trafodaeth am hyn wedi bod)
API
Bookmarklet

Mae llawer mwy wrth gwrs, a rhai efallai dwi'n gwyboda beth yw'r Gymraeg yn barod ond sydd ddim ar y rhestr.

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 1:35 pm
gan huwwaters
Ar y cyfieithiad o Wordpress.com, mae angen mwy o gysondeb hefyd.

Ma ne un neu ddau yn cyfrannu ato, gan gynnwys fi, ond mae geiriau gwahanol yn cael eu defnyddio ar gyfer y gair cyfatebol Saesneg. Hefyd, gan fod y cyfieithiadau yn cael eu gwneud o linynau, mae'n anos gweld y cyd0destun cywir.

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 2:00 pm
gan Rhys
Cytun,o er ti'n gallu edrych ar 'All Items' i weld pob llinyn, mae'n anodd darganfod be ti eisiau er mwyn cymharu.

Ar gyfer 'upload' dwi wedi bod yn defnyddio 'Uwchlwytho' tra mae rhywun allall wedi defnydio 'Fynylwytho' ac mae'r Cronfa Data'n cynnig 'llwytho i fyny'

Does dim modd hyd y gwela i o weld pwy arall sydd wrthi na chysylltu a nhw. Be am ddechrau edefyn ar wahan i drafod y cyfieithiad WordPress?

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 6:05 pm
gan 7ennyn
'Diwyglen' dwi'n ddefnyddio am 'stylesheet'.

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 7:44 pm
gan Hedd Gwynfor
Rhys a ddywedodd:Ar gyfer 'upload' dwi wedi bod yn defnyddio 'Uwchlwytho' tra mae rhywun allall wedi defnydio 'Fynylwytho' ac mae'r Cronfa Data'n cynnig 'llwytho i fyny'


Lanlwytho fydda i wasad yn defnyddio! :?

PostioPostiwyd: Maw 27 Tach 2007 7:55 pm
gan jammyjames60
Uwchwlytho 'swn i wastad yn ei ddeud am upload a lawrlwytho am downloadio

PostioPostiwyd: Mer 28 Tach 2007 1:25 pm
gan ger4llt
lanlwytho a mwy o ring iddo fo...

PostioPostiwyd: Mer 28 Tach 2007 2:01 pm
gan Hogyn o Rachub
Rhys a ddywedodd:Ar gyfer 'upload' dwi wedi bod yn defnyddio 'Uwchlwytho' tra mae rhywun allall wedi defnydio 'Fynylwytho' ac mae'r Cronfa Data'n cynnig 'llwytho i fyny'


Dw i'n meddwl mai "llwytho rth i fyny/i lawr" sy'n cael ei ddefnyddio'n "ffurfiol", fel petai. Er dwi'n teimlo mai 'lawrlwytho' mae pobl yn dueddol o ddweud i 'download' ond efo'r hen broblem tafodiaith mae "uwchlwytho" a "lanlwytho" yn amlwg yn mynd i achosi ffrae!

Gan ddweud hynny, efallai bod 'lanlwytho' yn swnio'n debyg iawn i 'lawrlwytho' a dylid ei osgoi?

Ga'i awgrymu efallai defnyddio yn y cyd-destun wyt ti'n son amdano:

lawrlwytho am 'download' - dw i'n meddwl mai dyma'r term y byddai rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio beth bynnag.

llwytho i fyny oherwydd bod 'lanlwytho' yn swnio'n debyg iawn i 'lawrlwytho', ond eto i'm clust i mae 'uwchlwytho' a 'fynylwytho' (er dwi'n meddwl mai'r rhain y byddwn i'n ei ddweud ar lafar) yn swnio braidd yn lletchwith.

Wrth gwrs, rhydd i bawb ddweud fel y mynnant, de!

PostioPostiwyd: Mer 28 Tach 2007 2:22 pm
gan sian
Ond, ti'n gallu troi "lawrlwytho" a "lanlwytho" yn enwau -"lawrlwythiadau" "lanlwythiadau"
Dw i ddim yn meddwl bod "lawrlwytho" a "lanlwytho" yn rhy debyg i'w gilydd - dydyn nhw ddim yn fwy tebyg na "lawr" a "lan" a does neb yn cymysgu rhwng y rheiny - am wn i!

Swn i'n tueddu i osgoi "uwchlwytho" - mae'n siwr mai mater o amser yw hi nes y cawn ni "superload" neu "upperload" neu "higherload" - os nad ydyn nhw'n bod yn barod ac wedyn beth fydden ni'n galw'r rheiny?

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 5:01 pm
gan HuwJones
Yn gyntaf - da iawn i Rhys am y gwaith ar gyfieithu meddalwedd

Dwi wedi bod yn cyfieithu "LimeWire" - sydd a lot fawr o uploadio a downloadio

Wnes i gadw at "Llwytho i Fyny" a "Llwytho i Lawr"

gan osgoi "Llwythiadau" "Llwythiadaufyny" "Fynylwythio" "LlwythFyny" etc

Wnes i feddwl am "Fyny" ac "Lawr" heb y "llwytho".. ond nes i ddim defnyddio rhain yn y diwedd chwaith.

Roedd y peth Termau TG ar wefan Bwrdd yr Iaith yn handi iawn, wnes i drio cadw at y termau swyddogol cymaint a phosibl.

Ond roedd o'n methu lot o bethe roeddwn angen - fel

Hosts
Peer to Peer (P2P)
Ultrakeeper

Am "Peer to Peer" Wnes i feddwl am lot o bosibiliadau fel 'Cymar i Gymar' etc.. ond yn y diwedd wnes i ddefnyddio Partner am y syniad o bobl eraill ar y rhwydwaith - Felly "Partner i Bartner". Hefyd er mwyn cadw rhwy fath o gysylltiad gyda "P2P". Hefyd roeddwn eisiau cywair iaith mor syml a chyfeillgar a phosibl gan fod LimeWire yn meddalwedd sy'n cael ei defnyddio yn bennaf gan bobl ifanc, yn eu hamser hamdden, i gael miwsig heb dalu, yn hytrach na rhaglen prosesi geiriau ar gyfer gwaith swyddfa.

Un or termiau roedd rhaid imi greu oedd y Gymraeg am "Freeloader" (rhywun sydd yn llwytho ffeiliau pawb arall heb rhoi dim ar y rhwydwaith i bobol eraill)
Wnes i benderfynu ar "Sbynjiwr" yn y diwedd!


Mae na lot o feddalwedd cod agored yn aros i rhywun cyfieithu i Gymraeg - rhowch gynnig arni felly!!!! Mae'r Gymraeg yn bell ar ei hol hi gyda TG a meddalwedd.