Eggcorns Cymraeg

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eggcorns Cymraeg

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 09 Ebr 2008 11:34 pm

Mae na rhwy drend bach wedi bod yn mynd mlaen ymysg gîcs ieithyddol yn y Saesneg sef sbotio, a chasglu "Eggcorns".

Be di rheina 'lly ? Wel...

Wiki a ddywedodd:an eggcorn is an idiosyncratic substitution of a word or phrase for a word or words that sound similar or identical in the speaker's dialect. Characteristic of the eggcorn is that the new phrase makes sense on some level ("old-timer's disease" for "Alzheimer's disease"). Eggcorns often involve replacing an unfamiliar, archaic, or obscure word with a more common or modern word ("baited breath" for "bated breath").


Mae na gronfa lawn o esiamplau fan hyn.

Y cwestiwn yw...oes na esiamplau o rai Cymraeg?

Dyma un nesh i weld y diwrnod o'r blaen i gicio petha off : "Llond gyfarchiadau" = "llongyfarchiadau"
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 10 Ebr 2008 8:22 am

Mae tenderhooks yn lle tenterhooks yn un da yn y Saesneg (ac i raddau llai pacific yn lle specific). Alla' i ddim meddwl am rai Cymraeg ar hyn o bryd. Rho amser i fi...
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan Rhys » Iau 10 Ebr 2008 9:26 am

Allai'm meddwl am un Cymraeg off top fy mhen er dwi'n siwr bod rhai da.

Wrth adael ein tŷ'n ddiweddar wedi pryd o fwyd, dywedodd ffrind, "thanks for you horse brutality" :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan sian » Iau 10 Ebr 2008 9:35 am

wedi'i glywed mewn caffi:
"Mae Emma'n cael ei ben dyddio dydd Sul"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan Dwlwen » Iau 10 Ebr 2008 11:59 am

Yyy, wy bach yn conffiwsd 'da 'styx' a 'sticks.'

O'n i'n meddwl taw 'moved to the styx' oedd yr ymadrodd, ond ma googlad sydyn yn awgrymu bod 'to the sticks' yn fwy cyffredin. Styx sy'n 'neud synnwyr i fi yn y cyd-destun - h.y. lle rhwng dear ac uffern... Beth yn union fydde ystyr 'moved to the sticks'? :?
Wn i ddim os yw e'n eggcorn chwaith.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan sian » Iau 10 Ebr 2008 12:09 pm

Dwlwen a ddywedodd:Yyy, wy bach yn conffiwsd 'da 'styx' a 'sticks.'

O'n i'n meddwl taw 'moved to the styx' oedd yr ymadrodd, ond ma googlad sydyn yn awgrymu bod 'to the sticks' yn fwy cyffredin. Styx sy'n 'neud synnwyr i fi yn y cyd-destun - h.y. lle rhwng dear ac uffern... Beth yn union fydde ystyr 'moved to the sticks'? :?
Wn i ddim os yw e'n eggcorn chwaith.


Mae "in the sticks" yn golygu "yng nghefn gwlad" - fel "back of beyond"; A remote area; backwoods: moved to the sticks.
A city or town regarded as dull or unsophisticated.
Dw i ddim yn gwybod beth yw'r tarddiad chwaith - os nad oedden nhw eisiau rhywbeth oedd yn cyflythrennu â "smoke"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan Dwlwen » Iau 10 Ebr 2008 12:15 pm

sian a ddywedodd:
Dwlwen a ddywedodd:Yyy, wy bach yn conffiwsd 'da 'styx' a 'sticks.'

O'n i'n meddwl taw 'moved to the styx' oedd yr ymadrodd, ond ma googlad sydyn yn awgrymu bod 'to the sticks' yn fwy cyffredin. Styx sy'n 'neud synnwyr i fi yn y cyd-destun - h.y. lle rhwng dear ac uffern... Beth yn union fydde ystyr 'moved to the sticks'? :?
Wn i ddim os yw e'n eggcorn chwaith.


Mae "in the sticks" yn golygu "yng nghefn gwlad" - fel "back of beyond"; A remote area; backwoods: moved to the sticks.
A city or town regarded as dull or unsophisticated.
Dw i ddim yn gwybod beth yw'r tarddiad chwaith - os nad oedden nhw eisiau rhywbeth oedd yn cyflythrennu â "smoke"

Ie - wy'n deall yr ystyr, diolch - jyst ddim yn deall sut ma "sticks" yn ffitio, tra bod "styx" fel rhywle sy tu hwnt i unman, yn 'neud sens.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan Dwlwen » Iau 10 Ebr 2008 12:20 pm

Dwlwen a ddywedodd:
Sian a ddywedodd:Dw i ddim yn gwybod beth yw'r tarddiad chwaith - os nad oedden nhw eisiau rhywbeth oedd yn cyflythrennu â "smoke"

Ie - wy'n deall yr ystyr, diolch - jyst ddim yn deall sut ma "sticks" yn ffitio, tra bod "styx" fel rhywle sy tu hwnt i unman, yn 'neud sens.

Aha!
Online Etymology Dictionary a ddywedodd:Phrase Sticks "rural place" is 1905, from sticks in slang sense of "trees" (cf. backwoods)

Wel, dirgelwch arall 'si ddatrys. Ond bydde tarddiad clasurol lot mwy o hwyl...
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 10 Ebr 2008 12:23 pm

Sat Nav = Catrin Dafydd 8)

Dwi wedi clywed un efengylwr bach ifanc brwd yn cyfeirio at ei waith fel "f'ing-ylu" mewn ymgais i get down with the kids :ofn:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Eggcorns Cymraeg

Postiogan Kez » Iau 10 Ebr 2008 1:06 pm

Wi'm yn siwr os yw'r rhain yn 'malapropisms' ne' eggcorns ond dyma gynnig:

Ar bigau'r brain yn lle ar bigau'r drain
Ar brigau'r drain yn lle ar bigau'r drain

y cachach yn lle y crachach

ar flaen y bad yn lle ar flaen y gad
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai

cron