Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 14 Ebr 2008 2:56 pm

Be am wbath fel hyn?

Boed i'r Dduwies roi i'r ty gariad a gorfoledd
a rhoi heddwch pur yn ei gwt colomennod.
A boed Iddi wenu ar yr aelwyd
a gwaredu pob amhuredd.
Boed Iddi fod yn y ty ei hun
a bendithio'r rhai sydd dan ei do.

Boed i Dduw ei Hun roi'r gallu a'r grym
i gadw'r cerrig rhag pob dim.
Boed i'w freichiau Ef gofleidio'r ty
a'i lenwi a llawenydd golau.
Boed Iddo'i Hun aros yn y lle
a rhoi'i fendith arnoch chi i gyd.

Boed i'r Enaid sanctaidd aros
wastad yn ei rym a'i nerth
a glanhau a bendithio'ch cartref:
dan eich bendith, croeso nol!
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Maw 15 Ebr 2008 8:54 pm

sian a ddywedodd:Wyt ti'n sôn am golomennod go iawn yma - neu jest fel symbol o heddwch? Mae'n swnio fel rhai go iawn yn "in the form of"/"ar ffurf".


Dim ond fel symbolau - symbolau am heddwch.

sian a ddywedodd:Dydw i ddim yn deall y gerdd yn iawn - ydi hi'n perthyn i ryw grefydd arbennig?


Nagodi - dwi wedi gosod dewisiadau fel y colomennod, oherwydd mae'n nhw'n cyffredinol i fron bob crefydd - yn golygu ysbrydol, Duw, heddwch ayyb. A nad ydi Paganiaeth yn wahanol i'r rheol 'na.

sian a ddywedodd:Dw i'n meddwl dylai "driphlyg" fod yn un gair.


Ia, dwi'n meddwl mae hi hefyd, ond cwbl o eiriaduron dwi wedi chwilio trwy, mae'n dwy gair gwahanol. Mae gen i "driphlyg" yn y gerdd.

Diolch o'r galon am dy help chdi 'to :D
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan sian » Maw 15 Ebr 2008 9:27 pm

xxglennxx a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Wyt ti'n sôn am golomennod go iawn yma - neu jest fel symbol o heddwch? Mae'n swnio fel rhai go iawn yn "in the form of"/"ar ffurf".


Dim ond fel symbolau - symbolau am heddwch.


Os felly, byddai "Ac anfon heddwch fel colomennod" yn well nag "ar ffurf colomennod"
Paid â gwrando ar dawncyfarwydd â'i gwt colomennod - dw i wedi'i gloi e yn y cwt colomennod am ddweud peth mor hurt :lol:

On'd ydi e'n rhyfedd bod colomen yn symbol heddwch ond bod sguthan, sy'n perthyn yn agos i'r golomen, yn cael ei ddefnyddio am ferch annymunol.
Erbyn meddwl, mae "yr hen gloman wirion" yn cael ei ddefnyddio am ferched hefyd. Rhyfedd!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Gwe 18 Ebr 2008 5:26 pm

sian a ddywedodd:On'd ydi e'n rhyfedd bod colomen yn symbol heddwch ond bod ysguthan, sy'n perthyn yn agos i'r golomen, yn cael ei ddefnyddio am ferch annymunol.


Haha. Ia, dylai hi'n darllen "And send peace in the form of pigeons," LOL.

Swn nhw'n gofyn be fi'n meddwl, bydd rhaid imi ddued "It's a Welsh joke :)". Ha.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 18 Ebr 2008 9:57 pm

Os mai paganiaid ydyn nhw, pam y fendith hon, yn enw'r Santes Fair, y Tad (neu Mab) a'r Ysbryd Santaidd? Tybed mai paganiaid Pabyddol ydyn nhw... Neu efallai eu bod nhw aros ym Mhowys (o'r Lladin "Paganensis") ac fod "paganiad" yn cyfeirio at rywun sy'n aros ym Mhowys.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Sul 20 Ebr 2008 4:50 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Os mai paganiaid ydyn nhw, pam y fendith hon, yn enw'r Santes Fair, y Tad (neu Mab) a'r Ysbryd Santaidd? Tybed mai paganiaid Pabyddol ydyn nhw... Neu efallai eu bod nhw aros ym Mhowys (o'r Lladin "Paganensis") ac fod "paganiad" yn cyfeirio at rywun sy'n aros ym Mhowys.


Sai'n gwpod os ti'n gwpod lot am Baganiaeth, ond (heb yn mynd i mewn i sgwrs crefyddol) mae Paganiaid yn credu mewn hen dduwiau a duwiesau, ond mae rhaid imi pwysleisio mae hon yn penderfynu ar ba lwybr o Baganiaeth y person yn dilyn. Nid yw'r bendith hon yn golygu Duw mewn ystyr Cristnogol, neu Duwies chwaith (i olygu Mari). Hefyd, mae mwyaf o Baganiaid yn credu mewn rhyw fath o Ysbryd Santaidd, efo'r meddwl bod ar ôl mae'r corff yn farw, mae'r ysbryd yn mynd i'r "Summer Lands" (mae hon wedi cael ei ffeindio mewn mythau a meddwl crefyddol (ysbrydol) Gaelaidd, ac yn cael ei ail-enedigaeth i mewn i ysgryd newydd, i ddod yn ôl i'r byd, NEU ymuno â'r Popeth (syniad arall).

Dan nhw ddim yn credu ym Mhowys, a dan nhw ddim yn Pabydd.

Mae'n galed iawn i egluro, oherwydd mae bob Pagan i'w ei hun. Dydy hwnnw ddim yn meddwl dan ni'n creu rhywbeth newydd allan o ddim byd, jyst mae na lot o bethau mae rhai o Baganiaid yn wneud bod nad lot eraill yn wneud.

Ydwi wedi glanhau na lân i chdi?
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Nôl

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 43 gwestai

cron