Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Sul 13 Ebr 2008 5:25 pm

Helo pawb,

Fi wedi bod yn sgwennu bendith/cerdd tŷ am fy ffrindiau a newydd symud i dŷ newydd, felly.

Dyma sut mae'n edrych yn Saesneg:
______________________________________________________________
The Blessing of the Home

May Goddess give this house love both joy and love,
And send peace in the form of doves.
May She smile down upon this house,
And banish all impure feelings out.
May She Herself be present here,
And bless all occupants, truly ones dear.

May God Himself give strength and might,
To keep these bricks strong through troubled plight.
May He wrap His arms around this home,
And give good feelings, all aglow.
May He Himself be present here,
And bless all occupants, truly ones dear.

May the omnipotence of the Sacred Soul,
Always be with you threefold.
May it bless and cleanse this homely-home,
So Blessed Be, and Welcome Home!

______________________________________________________________

A dyma be sy gen i yn Gymraeg:
______________________________________________________________

Bendith y Tŷ

Bydded i'r Dduwies roddi i’r tŷ hwn gariad a llawenydd,
Ac anfon heddwch ar ffurf colomennod.
Bydded iddi Hi wenu ar y tŷ hwn,
Ac alltudio pob teimlad amhur.
Bydded iddi Hi ei Hun fod yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliad, yn wir bobl annwyl.

Bydded i Dduw ei Hun roddi nerth a chryfder,
I gadw’r briciau hyn yn gadarn trwy adegau blinderus.
Bydded iddo lapio Ei freichiau o gwmpas y tŷ,
A rhoddi teimlad sy’n dda, yn loyw.
Bydded iddo Ef ei Hun fod yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliad, yn wir bobl annwyl.

Bydded i hollwybodaeth yr Enaid Sanctaidd,
Fod gyda chi'n dri phlyg bob amser.
Bydded iddo fendithio a glanhau’r cartref cartrefol hwn,
Felly Bendith Arnoch, a Chroeso Adref!


Diolch i Sian a Gerallt am y cywiriadau hyd yn hyn!
______________________________________________________________

Sori ei fod mor hir! Does ganddi hi ddim lliwiau, wneis 'na jyst i weld be sy Saesneg, be sy Gymraeg ayyb.

O, FYI, maen nhw'n baganiaid, hefyd, os dyna'n neud un rhywbeth yn glirach?!

Diolch o flaen llaw.
Golygwyd diwethaf gan xxglennxx ar Sul 13 Ebr 2008 11:35 pm, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan Llefenni » Sul 13 Ebr 2008 6:30 pm

Bydd Sian neu rwyn clyfar felly yma yn union dwi'n siwr - ond bydden i'n rhoi "Bydded i'r" Dduwies a.y.b. yn lle "caniatau i'r" - mae o mwy... ym, llenyddol dwi'n meddwl :?
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Sul 13 Ebr 2008 6:53 pm

Llefenni a ddywedodd:ond bydden i'n rhoi "Bydded i'r" Dduwies a.y.b. yn lle "caniatau i'r"


On i'n meddwl am osod 'na yn lle'r peth 'caniatau,' fel mae'n deud yn Hen Wald Fy Nhadau "O bydded i'r heniaith barhau," sef "O may (allow, permit) the old language continue."

Diolch am dy feddyliau chdi.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan ger4llt » Sul 13 Ebr 2008 10:14 pm

Bendith y Ty

Bydded i'r Dduwies roddi i’r tŷ hwn gariad a llawenydd,
Ac anfon heddwch yn y ffurf o golomennod.
Bydded iddi Hi wenu i lawr i’r tŷ hwn,
Ac alltudio pob teimlad amhûr allan.
Bydded iddi Hi ei Hun fod yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliadon, yn wir bobl annwyl.

Bydded i Dduw ei Hun roddi nerth a chryfder,
I gadw’r briciau hyn yn gadarn trwy adegau blinderus.
Bydded iddo Ef i amlapio Ei freichiau o gwmpas y tŷ hwn,
A rhoddi teimlad sy’n dda, yn loyw.
Bydded iddo Ef ei Hun fod yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliadon, yn wir pobl annwyl.

Bydded i’r hollwybodaeth o’r Enaid Sanctaidd,
Bob amser fod gyda chi dri phlyg.
Bydded iddo fendithio a glanhau’r cartref cartrefol hwn,
Felly Bendith Arnoch, a Chroeso Adref!


Dyna'r gorau allwn i gynnig...dwn'im os ydi o ryfaint o help!
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Sul 13 Ebr 2008 10:30 pm

ger4llt a ddywedodd:Dyna'r gorau allwn i gynnig...dwn'im os ydi o ryfaint o help!


Mae unrhyw help wedi gwerthfawrogi, diolch yn fawr :) Hefyd, mi fyddaf yn ail-bostio'r fersiwn newydd (dy fersiwn chdi), jyst i gadw pethau'n ddiweddar.

Diolch eto.
Golygwyd diwethaf gan xxglennxx ar Sul 13 Ebr 2008 10:37 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan sian » Sul 13 Ebr 2008 10:31 pm

Wedi cynnig un neu ddau o newidiadau i fersiwn Gerallt.

ger4llt a ddywedodd:
Bendith y Ty

Bydded i'r Dduwies roddi i’r tŷ hwn gariad a llawenydd,
Ac anfon heddwch ar ffurf colomennod.
Bydded iddi Hi wenu ar y tŷ hwn,
Ac alltudio pob teimlad amhur.
Bydded iddi Hi ei Hun fod yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliad, yn wir bobl annwyl.

Bydded i Dduw ei Hun roddi nerth a chryfder,
I gadw’r briciau hyn yn gadarn trwy adegau blinderus.
Bydded iddo lapio Ei freichiau o gwmpas y tŷ,
A rhoddi teimlad sy’n dda, yn loyw.
Bydded iddo Ef ei Hun fod yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliad, yn wir bobl annwyl.

Bydded i hollwybodaeth yr Enaid Sanctaidd,
Fod gyda chi'n dri phlyg bob amser.
Bydded iddo fendithio a glanhau’r cartref cartrefol hwn,
Felly Bendith Arnoch, a Chroeso Adref!


Dyna'r gorau allwn i gynnig...dwn'im os ydi o ryfaint o help!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Sul 13 Ebr 2008 10:40 pm

sian a ddywedodd:Wedi cynnig un neu ddau o newidiadau i fersiwn Gerallt.


W, fersiwn newydd newydd, ha! Diolch Sian. Eto, bydda i'n ail-bostio'r fewsiwn hon i gadw pethau'n ddiweddar.

Diolch :)
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan sian » Llun 14 Ebr 2008 8:17 am

Ychydig o newidiadau bach eto. Ydi "Boed" yn darllen yn haws? Mae'r ddwy ffurf yn iawn.
Fyddai "aelwyd gartrefol" yn swnio'n well na "cartref cartrefol" neu ydych chi eisiau'r un effaith â "homely home"?

Bendith y Ty

Boed i'r Dduwies roddi i’r tŷ hwn gariad a llawenydd,
Ac anfon heddwch ar ffurf colomennod.
Boed iddi wenu ar yr aelwyd,
Ac alltudio pob teimlad amhur.
Boed Hi ei Hun yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliad, yn wir bobl annwyl.

Boed i Dduw ei Hun roddi nerth a chryfder,
I gadw’r briciau hyn yn gadarn trwy adegau blinderus.
Boed iddo lapio Ei freichiau o gwmpas y tŷ,
A rhoddi teimlad sy’n dda, yn loyw.
Boed Ef ei Hun yn bresennol yma,
A bendithio pob deiliad, yn wir bobl annwyl.

Boed hollwybodaeth yr Enaid Sanctaidd,
Gyda chi'n driphlyg bob amser.
Boed iddo fendithio a glanhau’r cartref cartrefol hwn,
Felly Bendith Arnoch, a Chroeso Adref!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan xxglennxx » Llun 14 Ebr 2008 2:03 pm

sian a ddywedodd:Ychydig o newidiadau bach eto. Ydi "Boed" yn darllen yn haws? Mae'r ddwy ffurf yn iawn.
Fyddai "aelwyd gartrefol" yn swnio'n well na "cartref cartrefol" neu ydych chi eisiau'r un effaith â "homely home"?


Diolch eto. Ond mae dal gen i'r hoff o'r effaith "homely home" sef "cartref cartrefol."

Hefyd, pam dach chi wedi newid rhai o bethau, fel yn gosod "ar" yn lle "yn y"? A hefyd, mae well gen i ddeud "Byddedd" yn lle "boed" - o leia efo "bydded" bydd yn ffrindiau i'n dallt bach o'r gerdd yn y Gymraeg hefyd :)

A pham ydw i'm angen "bod" ar y dechrau o'r brawddeg o "Gyda chi'n driphlyg bob amser," felly yn lle â "Bod gyda chi'n driphlyg bob amser"?

Diolch o'r galon.
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Cywiriadau i'r fendith hon, plîs?!

Postiogan sian » Llun 14 Ebr 2008 2:21 pm

xxglennxx a ddywedodd:[
Hefyd, pam dach chi wedi newid rhai o bethau, fel yn gosod "ar" yn lle "yn y"? A hefyd, mae well gen i ddeud "Byddedd" yn lle "boed" - o leia efo "bydded" bydd yn ffrindiau i'n dallt bach o'r gerdd yn y Gymraeg hefyd :)


"Ac anfon heddwch ar ffurf colomennod."
Dyma sy'n iawn. Geiriadur yr Academi: in the form of something = ar ffurf rhywbeth; ar lun rhywbeth.
Mae "yn y ffurf o" yn dilyn y gystrawen Saesneg "in the form of".
Wyt ti'n sôn am golomennod go iawn yma - neu jest fel symbol o heddwch? Mae'n swnio fel rhai go iawn yn "in the form of"/"ar ffurf". Dydw i ddim yn deall y gerdd yn iawn - ydi hi'n perthyn i ryw grefydd arbennig?

Dw i'n meddwl dylai "driphlyg" fod yn un gair.

Lan i ti ddewis "boed" neu "bydded". Maen nhw'n golygu yr un peth.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron