Mae gen i dits itha mawr, am wryw, a'r hyn sydd wedi bod yn mynd arnyn nhw yn ddiweddar ydi pobol yn iwsio 'sydd' yn lle 'yn' wrth rannu'u statws a'r byd. Er enghraifft: dawncyfarwydd sy'n bored yn y gawod.
Yr hyn ydyw o'i gyfieithu - 'it is dawncyfarwydd who is bored in the shower'. A neb ond dawncyfarwydd.
Ar y llaw arall mae dawncyfarwydd yn bored yn y gawod. Er ein bod ni'n colli'r ferf yn y frawddeg does dim lot o otsh achos dydi hynny ddim yn groes i anian bytiog y peth, a does na ddim camddealltwriaeth yn bosib am yr ystyr.
I mi ma defnyddio 'sydd' yn swnio fel ymgais stiwpid o hunanymwybodol i drio bod yn Gymreig, ac yn gamarweiniol - tra bod 'yn' yn addasu i'r cyfrwng ac yn direct ac yn gyffredinol well.
Dwi mwy na thebyg yn rong, ond mae o'n dal i fynd ar fy nhits i. Trafoder eniwe.