Saim vs. braster

Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Tafodieithoedd, beth yw *** yn Gymraeg, gramadeg, dywediadau ac ati. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Saim vs. braster

Postiogan Elena » Gwe 18 Ebr 2008 6:48 am

Fel rhan o'r ymchwil dw i'n gweithio amdano, mae rhaid i fi ffeindio'r gair am 'fat' yng Nghymraeg cyfoes.
'Fat' mewn cyddestunau canlynol:
1. Dyma sosban a ____ ynddi
2. Dyma ddarn o ____
3. Mae Dad yn hoffi bwyta ____.
Ar ol Geiriadur yr Academi bod'na o leia tri o eiriau: saim, braster a bloneg, ond hoffwn i'n iawn i wybod y wahaniaeth rwngddunt.

A diolch un waith eto i bawb sy'n ateb - dw i mor ddiolchgar iawn i chi, allwn i ddim i weithio heb eich help!
Golygwyd diwethaf gan Elena ar Gwe 18 Ebr 2008 7:57 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Elena
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:55 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Saim vs. braster

Postiogan sian » Gwe 18 Ebr 2008 7:39 am

Elena a ddywedodd:Fel rhan o'r ymchwil dw i'n gweithio amdano, mae rhaid i fi ffeindio'r gair am 'fat' yng Nghymraeg cyfoes.
'Fat' mewn cyddestunau canlynol:
1. Dyma sosban a ____ ynddi
2. Dyma darn o ____
3. Mae tad yn hoffi bwyta ____.
Ar ol Geiriadur yr Academi bod'na o leia tri o eiriau: saim, braster a bloneg, ond hoffwn i'n iawn i wybod y wahaniaeth rwngddunt.

A diolch un waith eto i bawb sy'n ateb - dw i mor ddiolchgar iawn i chi, allwn i ddim i weithio heb eich help!


Dw i'n meddwl swn i'n dweud:
1. Dyma sosban a saim / sâm ynddi
2. Dyma ddarn o ffat
3. Mae Dad?? yn hoffi bwyta cig gwyn.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Saim vs. braster

Postiogan Elena » Gwe 18 Ebr 2008 8:17 am

Diolch, sian!
sian a ddywedodd:Dw i'n meddwl swn i'n dweud:
1. Dyma sosban a saim / sâm ynddi
2. Dyma ddarn o ffat
3. Mae Dad?? yn hoffi bwyta cig gwyn.

Felly saim am beth i ffrio bwyd? Ydych chi'n defnyddio geiriau bloneg a braster?
Golygwyd diwethaf gan Elena ar Gwe 18 Ebr 2008 8:28 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Elena
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Mer 08 Maw 2006 3:55 pm
Lleoliad: Mosgo

Re: Saim vs. braster

Postiogan sian » Gwe 18 Ebr 2008 8:22 am

Elena a ddywedodd:Diolch, sian!
sian a ddywedodd:Dw i'n meddwl swn i'n dweud:
1. Dyma sosban a saim / sâm ynddi
2. Dyma ddarn o ffat
3. Mae Dad?? yn hoffi bwyta cig gwyn.

Felly saim am beth i ffrio bwyd? Ydych chi'n defnyddio geiriau bloneg a braster?


Fyswn i'n defnyddio bloneg ar gyfer rhywun tew - "Mae gen ti ddigon o floneg i dy gadw di'n gynnes" - "Ti 'di mynd yn flonegog dywed?"
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Saim vs. braster

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Ebr 2008 12:52 pm

sian a ddywedodd:
Elena a ddywedodd:Diolch, sian!
sian a ddywedodd:Dw i'n meddwl swn i'n dweud:
1. Dyma sosban a saim / sâm ynddi
2. Dyma ddarn o ffat
3. Mae Dad?? yn hoffi bwyta cig gwyn.

Felly saim am beth i ffrio bwyd? Ydych chi'n defnyddio geiriau bloneg a braster?


Fyswn i'n defnyddio bloneg ar gyfer rhywun tew - "Mae gen ti ddigon o floneg i dy gadw di'n gynnes" - "Ti 'di mynd yn flonegog dywed?"
Jiawcs, un cas wyt ti Sian. Gobitho fyddai 'di trimo lawr 'mbach cyn i ti ddechre siarad a fi :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Saim vs. braster

Postiogan Llefenni » Gwe 18 Ebr 2008 1:02 pm

Dwi'n defnyddio saim fel "grease" - gwallt seimllyd, platiau seimllyd - caffi llwy seimllyd!

Mae braster mwy o beth coginio - braster ar y bacwn neu'r ham, mae'r donut yna'n llawn braster, allai'm cael y pizza na o Domino's heno, gormod fraster (wel, heblaw am yr un ola na, am gael y pizza dwi'n amau ;-)
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Saim vs. braster

Postiogan Duw » Gwe 09 Mai 2008 11:29 pm

I roi'n dwy geiniog mewn, yn ardal Brynaman:

Saim = grease fel a ddywedwyd eisoes (hefyd am bethe fel lard, olew coginio). Bara saim fried bread. Roedd dad yn drifo loris ac roedd yn defnyddio saim am grease yn gyffredinol - axle grease ac ati.
Bras (nid braster) = fat ar ddarn o gig
Cofio dad yn dweud "gwthi" am fras, ond dwi'n meddwl roedd e'n cyfeirio at "connective tissue".
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Saim vs. braster

Postiogan sian » Gwe 09 Mai 2008 11:56 pm

Duw a ddywedodd:Cofio dad yn dweud "gwthi" am fras, ond dwi'n meddwl roedd e'n cyfeirio at "connective tissue".


Roedd fy nhad i'n dweud "gwthi" hefyd ond dw i ddim yn meddwl mai am fraster - mwy tebyg i beips a'r darn sy'n dal y cyhyrau wrth yr asgwrn dw i'n meddwl - fel "connective tissue" am wn i.

Briws: gristle = gwythi, gïau
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Defnydd yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 36 gwestai