I ymateb o ddifri, mae yna wahaniaeth mawr rhwng pobl sydd yn methu cyrraedd y safon ond yn ceisio'u gorau (a dwi'n un ohonynt, dwi'n ymwybodol nad oes Cymraeg perffaith gennyf o bell ffordd, ond dwi'n defnyddio'r iaith ac yn ceisio gwella fy nefnydd o'r iaith), a rhywun fel Tom Jones sydd yn amlwg ddim yn poeni taten am yr iaith. Tase fe'n poeni, bydde fe wedi gallu dysgu'r anthem i safon dipyn gwell na hynny. Beth mae e'n gwneud yw dilorni'r iaith Gymraeg drwy beidio a ffwdanu gwneud yr ymdrech angenrheidiol, tra'n defnyddio'r cyfle (milko i ddefnyddio idiom Saesneg) i godi ei broffil ei hunan yn yr UDA. Wedi'r cyfan mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw ddim yn medru'r iaith, felly ond yn gwneud y cysylltiad rhwng Tom Jones a phencampwr y Byd o Gymru.Mali a ddywedodd:Os da ni'n sôn am gadw safon yr Iaith , nid Tom Jones yn unig fasa o dan y lach , felly pam pigo arno fo ? Beth am yr holl eiriau Saesneg da ni'n eu defnyddio ar maes-e , y chwaraewyr rygbi a pheldroed cenedlaethol sydd ddim yn medru canu'r anthem o gwbwl, neu hyd yn oed y rhai sydd yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn anghofio eu geiriau.
Oes, mae angen cadw safon , ond fel mae Cymro 13 yn awgrymu, ffrindiau da ni isho ddim gelynion !
Fi'n cytuno mae ffrindiau nid gelynion sydd angen, ond ai ffrind yw Tom Jones? Yn fy marn i mae'r boi yn gwneud mwy o niwed nac o les i delwedd Cymru a'r iaith Gymraeg.