Sedd Tremadog ydi'r sedd dan sylw. O ran bwriad Alwyn i sefyll yn Nhremadog roedd o wedi nodi'n glir nad oedd o am sefyll yn erbyn y cynghorydd oedd yn erbyn polisi Gwynedd ond dwi'n cael ar ddallt fod gan June Jones lythyr ganddo yn nodi'r ffaith ei fod o wedi newid ei feddwl ynglyn a sefyll yn ei herbyn hi er iddi bleidleisio yn erbyn ffedaraleiddio/ cau ysgolion. O ran yr hyn sydd wedi cael ei ddweud mae'r person dwi'n nabod o Beddgelert wedi cael Alwyn yn deud fod June o blaid cau yr ysgol wrthi hi a dim hi ydi'r unig un i gael yr neges. Pe bai un person wedi cam-ddeall digon teg ond mae hi wedi siarad ag eraill wedi cael yr un neges.Siawns fod y Blaid yn edrych ar y sefyllfa bellach?
O ran Aeron yn gweiddi'n groch am ffeithiau dwi'n gobeithio fod hynna yn ychydig o help ond dal i ddisgwyl am dy ffeithiau di?