Mae yna dau air Saesneg yn gallu meddwl cynnyrch. Product ac yield. Fel arfer byddai hwn ddim yn gormod o broblem, ond yn rhinwedd fy swydd mae'n gallu peri problem.
Rwy'n dysgu Cemeg trwy gyfrwng y Gymraeg i ambell i ddosbarth a thrwy Saesneg i eraill.
Wrth son am adwaith cemegol yn Saesneg, byddaf yn dweud fod product yn cael ei greu (neu products eu creu). Yn Gymraeg byddaf yn dweud fod cynnyrch yn cael ei greu (neu yn cael eu creu), dim lot o broblem.
Yna byddaf yn som am y product defnyddiol yn cael ei greu (un o'r products felly), y maint o'r product yma yw'r yield. Fan hyn mae'r problem yn codi achos yn y Gymraeg byddaf yn dweud fod y cynnyrch yw'r maint o'r cynnyrch ni ishe mas o'r holl gynnyrch Yr unig ateb allai feddl am yw rhoi'r gair Saesneg i'r disgyblion wrth ddysgu'r pwnc. Ond dwi'n gwbod bydd problemau yn codi yn yr arholiad i rai achos yn amlwg bydd cyfle mawr i gymysgu rhwng y ddau "cynnyrch" gwahanol.
Oes unrhywun yn gallu rhoi syniad sut i oresgyn y broblem yma?